Aelod Seneddol Pen-y-bont ar Ogwr yw’r trydydd Ceidwadwr i alw am ymddiswyddiad Liz Truss.
Yn ôl Jamie Wallis, gafodd ei ethol i San Steffan yn 2019, dyna’r “peth iawn i’w wneud er mwyn sicrhau sefydlogrwydd, diogelwch a ffyniant” y wlad.
Dywed hefyd fod y Prif Weinidog wedi “tanseilio hygrededd economaidd Prydain a chreu rhwygiadau anadferadwy yn y blaid”.
Daw hyn ar ôl i Crispin Blunt, Aelod Seneddol Ceidwadol Reigate yn Surrey, ac Andrew Bridgen, sy’n cynrychioli Gogledd Orllewin Swydd Gaerlŷr, alw am ymddiswyddiad Liz Truss.
Yn ei lythyr, mae Jamie Wallis yn cyhuddo Liz Truss o “wallau sylfaenol iawn y gellir eu hosgoi” wrth gyfeirio at y gyllideb fach gafodd ei chyhoeddi gan y llywodraeth ychydig wythnosau’n ôl a’r penderfyniad dilynol i ddiswyddo’i Changhellor, Kwasi Kwarteng.
Mae’r Canghellor newydd, Jeremy Hunt, wedi cyflwyno ei gynlluniau cyllidebol heddiw (dydd Llun, Hydref 17), bythefnos cyn y disgwyl, sy’n cynnwys gwneud tro pedol ar y rhan fwyaf o’r mesurau gafodd eu cyflwyno gan Kwasi Kwarteng a Liz Truss.
‘Tanseilio hygrededd’
Wrth alw am ei hymddiswyddiad, dywed Jamie Wallis fod penderfyniad Liz Truss i benodi cefnogwyr iddi yn hytrach na’r gwleidyddion mwyaf cymwys wedi arwain at benderfyniadau sydd wedi gwneud “niwed amlwg i economi Prydain”.
“Yn ogystal, maen nhw wedi tanseilio hygrededd Prydain fel economi gyfrifol i ymddiried ynddi, ac wedi creu rhwygiadau yn y blaid all fod yn anadferadwy,” meddai.
“Roedd y ras arweinyddol yn arbennig o anodd i mi. Roedd gwylio cydweithwyr yn ecsbloetio mater hawliau trawsryweddol a’i ddefnyddio fel arf er mwyn sgorio pwyntiau gwleidyddol rhad yn andros o amhleserus.
“Mae’r ras arweinyddol, y penodiadau rydych chi wedi’i wneud yn y Llywodraeth, y ffordd mae eich uwch bobol yn rheoli eu Haelodau Seneddol, y ffordd rydych chi wedi caniatáu i gydweithwyr Cymraeg gael eu tanseilio drwy eich penderfyniad i benodi Aelod Seneddol Saesneg fel Ysgrifennydd Gwladol yn Swyddfa Cymru er bod gennych y nifer uchaf erioed o Aelodau Seneddol Ceidwadol Cymreig, a’r ffordd rydych chi wedi ymdrin â’r wasg wedi fy mherswadio i na allwn ni fyth fod yn dîm unedig tra eich bod chi’n arweinydd.
“Felly, dw i’n gofyn i chi gamu lawr fel Prif Weinidog oherwydd dw i ddim yn credu bod gennych chi ffydd y wlad na’r blaid seneddol mwyach.”
‘Stopio’r rhyfel cartref’
Ond yn ôl Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, dylai’r Blaid Geidwadol “stopio’i rhyfel cartref mewnol”.
Wrth siarad â BBC Radio Wales Breakfast, dywedodd ei bod hi’n bryd i Liz Truss “gamu ymlaen a diffinio ei hun oherwydd mae nifer o benderfyniadau cynnar y llywodraeth bresennol wedi profi i fod yn rhai â phroblemau, yn enwedig wrth gadw hyder yn y farchnad”.
“Ac yn amlwg, mae angen i gydweithwyr yn San Steffan stopio trio ail-redeg y ras arweinyddol a gafodd ei chynnal gan y Blaid Geidwadol dros fisoedd yr haf,” meddai.
“Dw i wir yn gobeithio y bydd y prif weinidog, gan weithio â’r Canghellor newydd, yn gallu cael gafael ar yr anobaith economaidd y mae pobol yn ei deimlo ar y funud.”