Mae Jill a Neil o Lanfaglan ger Caernarfon wedi bod yn rhoi lloches i gwpwl o Wcráin, Oleg a Valeriia, oedd wedi cael babi, Alisia, dau ddiwrnod ar ôl i’r rhyfel ddechrau.

Eddy van Rijwijk (cefnder Chris), Ted Kennedy, Arleen Kennedy (merch Suze), Chris Schoen.

Cafodd y babi ei geni yn selar ysbyty oedd wedi cael ei fomio a phan aethon nhw adref, wnaethon nhw ddarganfod bod eu tŷ hefyd wedi cael ei fomio ac fe ddihangodd y teulu bach i Rufain, lle nad oedd fawr o gefnogaeth iddyn nhw, ac fe benderfynon nhw ddod i wledydd Prydain ar ôl darllen am y cynllun ‘Homes for Ukraine’.

Mae gwefannau ar gael, gan gynnwys “Homes for Ukrainians”, “OPERA” a thudalennau Facebook i bobol gael cwrdd â phobol o Wcráin i roi lloches iddyn nhw.

Cwrddodd y teulu bach â Jill a’i gŵr Neil ar “Homes for Ukraine” ac ar ôl sgwrsio ar WhatsApp, daeth y teulu draw.

Mae sawl person o Gymru wedi cynnig lloches i bobl o Wcráin.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fis Medi fod 2,860 o bobl o Wcráin wedi cael lloches gan bobol o Gymru.

Ond yn ôl Jill, mae prinder rŵan o bobol sydd yn cymryd ffoaduriaid oherwydd bod y bobol oedd eisiau rhoi lloches wedi gwneud hynny’n barod.

Teulu yn rhoi lloches i ferch Iddewig yn yr ail ryfel byd

Mae caredigrwydd pobol at ei gilydd yn ystod rhyfel yn stori oesol.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, roedd rhai pobol yn ddigon dewr i guddio Iddewon yn eu cartrefi rhag y Natsïaid.

Rhoddodd nain a thaid Chris Schoen, sydd yn byw ym Mhenygroes ond sydd â chysylltiadau teuluol yn yr Iseldiroedd, loches i ferch Iddewig.

Anna Johanna Schoen a Joost Schoen

Roedd ei nain a’i daid, Anna Johanna a Joost Schoen, yn byw mewn pentref o’r enw Rhelmasen.

Daeth plentyn o’r enw Suze van der Bijil, oedd yn bedair oed, i fyw efo nhw rhwng 1944 a 1945.

Dwy gymdeithas sy’n mynnu rhoi?

Mae rhai pethau yn gwneud y ddwy sefyllfa yma yn debyg, sef y caredigrwydd a’r cariad sy’n cael eu dangos.

Yn y ddau achos, mae lloches wedi’i gynnig i bobol mewn gwir angen, ac mae cefnogaeth a chyfeillgarwch y gymuned yn amlwg yn y ddwy stori.

Dywed Oleg fod pobol yn helpu ac yn gwenu ar eu merch Elisia, a dywed Jill fod pawb yn helpu a bod y deintydd wedi cynnig dillad hefyd.

Dywed Chris fod ei nain a’i daid wedi “cuddiad y ferch yng ngolwg pawb” a fod neb yn “sbragio”.

Un peth arall sy’n debyg yw fod y bobol oedd yn ffoi rhag y rhyfel yn y ddwy sefyllfa wedi eu heffeithio gan drawma, a dywed Jill fod “rhaid bod tad y teulu’n dioddef o drawma”.

“Mae’r ffaith yr aeth mewn i ffit yn dangos ei fod dan straen,” meddai.

“Doedd erioed wedi cael ffit o’r blaen.

“Roedd yn yr ysbyty am ddeng niwrnod.”

Dywed Chris Schoen fod Suze “yn gwlychu’r gwely”.

Beth sy’n gwneud y sefyllfa yn wahanol?

Ac eto, mae pethau sydd yn gwneud y sefyllfaeoedd yn wahanol i’w gilydd hefyd.

Roedd teulu Chris Schoen mewn perygl mawr wrth gynnig lloches i ferch Iddewig.

Beth fyddai’n digwydd i’w nain a’i daid pe baen nhw’n cael eu dal?

Dywed y bydden nhw’n “cael eu cymryd i wersyll fel caethweision mewn forced labour camps, neu’n cael eu saethu”.

Nid yw’r perygl yma yno i bobol sydd yn cynnig lloches i bobl o Wcráin.

Mae’r ffordd y gwnaethon nhw gwrdd hefyd yn wahanol, gyda Jill a’r teulu o Wcráin yn cyfarfod dros y We ac yn sgwrsio dros WhatsApp wedyn.

Arleen Kennedy
Arleen Kennedy, merch Suze

Sut ddaethon nhw o hyd i Suze, felly?

“Be’ ddigwyddodd, dyma rywun yn dod o Amsterdam efo mudiad yn fan’na yn gofyn i Nain a Taid, ’fyddech chi’n fodlon cymryd Iddewes a’i chuddiad hi, a dywedon nhw ‘Iawn’, a’i chymryd i mewn.”

Mae’r teulu o’r Wcráin wedi profi llawer o fiwrocratiaeth wrth ddod i Gymru, ac fe gymerodd dri mis i fisa’r babi ddod drwodd.

Roedd y Groes Goch i fod i roi £50 yn y maes awyr, ond doedd neb yno.

Roedden nhw fod i gael £200 hyd nes bod eu budd-dal yn dod drwodd, ond fe ddaeth bedair wythnos ar ôl iddyn nhw gyrraedd.

Doedd y problemau hyn ddim yn bodoli efo teulu Chris Schoen wrth iddyn nhw helpu Suze, oherwydd “yn ôl y Natsïaid, roedd yn anghyfreithlon”.

  • Os ydych wedi eich effeithio gan y materion uchod neu eisiau gwybod mwy am noddi person o Wcráin, ffoniwch Gyngor Ffoaduriaid Cymru ar 0808 196 7273.