Mae Kwasi Kwarteng, Canghellor y Deyrnas Unedig, wedi cael ei ddiswyddo.

Daw hyn yn sgil adroddiadau y bydd y Prif Weinidog Liz Truss yn cyhoeddi tro pedol ar rannau o’r gyllideb fach gafodd ei chyhoeddi ar Fedi 23.

Mae’n golygu mai Kwasi Kwarteng yw’r Canghellor sydd wedi gwasanaethu am yr ail gyfnod byrraf yn hanes y Deyrnas Unedig – 38 diwrnod.

Bu farw Iain Macleod o drawiad ar y galon 30 diwrnod ar ôl camu i’r swydd yn 1970.

Ers 2019, mae’r Deyrnas Unedig wedi cael pedwar Canghellor, gan gynnwys Nadhim Zahawi a wasanaethodd am y trydydd cyfnod byrraf – 63 diwrnod – yn ystod dyddiau olaf Boris Johnson yn Brif Weinidog, a Sajid Javid a wasanaethodd am 204 diwrnod – y pedwerydd cyfnod byrraf ar gofnod.

Olynydd Kwasi Kwarteng fydd pedwerydd Canghellor y Deyrnas Unedig mewn pedwar mis.

Mewn llythyr at y Prif Weinidog yn dilyn ei ymddiswyddiad, dywedodd Kwasi Kwarteng: “Rydym wedi bod yn ffrindiau a chydweithwyr ers nifer o flynyddoedd.

“Yn yr amser yna, rwyf wedi gweld eich ymroddiad a’ch penderfyniad.

“Rwy’n credu mai eich gweledigaeth chi yw’r un gywir.

“Mae hi wedi bod yn anrhydedd gwasanaethu fel eich Canghellor cyntaf.”

 

Ac mewn llythyr i Kwasi Kwarteng, dywedodd y Prif Weinidog: “Fel ffrind a chydweithiwr hirsefydlog, mae’n ddrwg iawn gen i eich colli chi o’r Llywodraeth.

“Rydym yn rhannu’r un weledigaeth ar gyfer ein gwlad a’r un argyhoeddiad cadarn ynglyn â thwf.

“Rydych wedi bod yn Ganghellor mewn cyfnod eithriadol o anodd yn sgil heriau byd-eang difrifol.”

Jeremy Hunt i olynu Kwasi Kwarteng?

Mae disgwyl i Liz Truss ddefnyddio’r gynhadledd i’r wasg heddiw (dydd Gwener, Hydref 14) i gyhoeddi y bydd y dreth gorfforaeth yn codi i 25% y gwanwyn hwn, er mae’n debyg y bydd hi’n wynebu gorfod rhoi atebion lu am ddiswyddiad Kwasi Kwarteng.

Mae’r penderfyniad ar y dreth gorfforaeth yn golygu ei bod yn cefnu ar un o’r addewidion torri treth blaenllaw o’i hymgyrch arweinyddiaeth.

Roedd y Prif Weinidog wedi addo cael gwared ar y cynnydd yn y dreth gorfforaeth o 19% i 25% oedd wedi’i drefnu ar gyfer mis Ebrill y flwyddyn nesaf gan Rishi Sunak pan oedd yn Ganghellor, ond mae disgwyl i’r cynnydd fynd yn ei flaen bellach yn ôl y cynllun gwreiddiol.

Fodd bynnag, mae disgwyl i’r Prif Weinidog gadw at ei chynlluniau i dorri Yswiriant Gwladol a chyfradd sylfaenol y dreth incwm.

Mae’n debyg y bydd Liz Truss yn awyddus i benodi Canghellor newydd cyn iddi wynebu aelodau’r wasg, gyda’r Telegraph yn adrodd y gallai Jeremy Hunt olynu Kwasi Kwarteng.

‘Rhaid i Liz Truss fynd’

Yn dilyn diswyddo Kwasi Kwarteng, mae Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, yn dweud bod rhaid i’r Prif Weinidog Liz Truss ddilyn ei Changellor.

“Mae Liz Truss yn gobeithio achub ei harweinyddiaeth zombie drwy wneud Kwasi Kwarteng yn fwch dihangol,” meddai.

“Gadewch i ni gofio – mi wnaeth hi frolio’r term ofnadwy hwnnw ‘Trussonomics’.

“Mi wnaeth hi ysgrifennu’r llyfr ar yr ideoleg sydd yn ceisio gorfodi’r arbrawf economeg ffantasïol ar ein cymunedau.

“Hi oedd gyrrwr y gwrthdrawiad car hwn.

“Rhaid iddi gymryd cyfrifoldeb felly.

“Rhaid i Liz Truss gydnabod mai ei bai hi ei hun ydi’r sioc economaidd sydd wedi achosi cymaint o bryder i bobol.

“Rhaid iddi ymddiswyddo heddiw.”

“Angen newid y llywodraeth”

Mae Rachel Reeves, canghellor yr wrthblaid, wedi ymateb i ddiswyddo Kwasi Kwarteng gan ddweu nad yw “newid y Canghellor yn dadwneud y niwed sydd eisoes wedi ei wneud”. “Mae hwn yn argyfwng sydd wedi cael ei wneud yn Stryd Downing.

“Liz Truss a’r Ceidwadwyr sydd wedi chwalu’r economi, gan achosi morgeisi i gynyddu’n aruthrol, ac mae wedi tanseilio statws Prydain ar lwyfan y byd.

“Does dim angen newid y Canghellor yn unig, mae angen newid y llywodraeth.

“Dim ond Llafur sy’n cynnig yr arweinyddiaeth a’r syniadau sydd eu hangen ar Brydain i sicrhau’r economi a’n tywys alla o’r llanast yma.”

Syr Ed Davey yn galw am etholiad cyffredinol

Mae Syr Ed Davey, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, wedi galw am etholiad cyffredinol.

“All hyn ddim dod i ben gyda diswyddiad Kwasi Kwarteng yn unig, mae’n rhaid i’r ffordd ddi-hid y mae’r Ceidwadwyr yn rhedeg ein economi ddod i ben hefyd,” meddai.

“Ni ddechreuodd hyn gyda Kwasi Kwarteng ond mae’n rhaid iddo ddod i ben nawr.

“Mae pobol yn flin, wedi cael llond bol ac yn poeni am y dyfodol.

“Yn bennaf oll, maen nhw’n gandryll bod Aelodau Seneddol Ceidwadol fel petaen nhw’n credu bod hyn yn ffordd dderbyniol o gynnal llywodraeth ein gwlad yn y cyfnod anodd hwn.

“Digon yw digon. Fe ddechreuodd hyn gyda Boris Johnson yn methu ein gwlad, a nawr mae Liz Truss wedi torri ein heconomi, mae’n bryd i’r bobol gael dweud eu dweud mewn etholiad cyffredinol.”