Mae Rhif 10 wedi cadarnhau bod Jeremy Hunt wedi cael ei benodi Yn Ganghellor newydd y Deyrnas Unedig.

Daw hyn ar ôl i Kwasi Kwarteng gael ei ddiswyddo gan Liz Truss.

Yn ystod yr ornest arweinyddol dros yr haf, rhoddodd Hunt ei hun ymlaen i fod yn arweinydd nesaf y Torïaid, ond ar ôl peidio â chael digon o gefnogaeth gan ei gyd-Aelodau Seneddol, cefnogodd ymgyrch Rishi Sunak.

Ef yw pedwerydd Canghellor y Deyrnas Unedig mewn pedwar mis.

Yn y cyfamser, mae Ed Argar wedi cael ei benodi yn Brif Ysgrifennydd y Trysorlys – yr ail swydd bwysicaf yn Rhif 11.

Bydd yn symud o’i rôl yn Swyddfa’r Cabinet fel Tâl-feistr Cyffredinol, gan gyfnewid rolau gyda’i ragflaenydd Chris Philp.

“Heddiw rwyf wedi gofyn i Jeremy Hunt fod yn Ganghellor newydd,” meddai Liz Truss ar ôl penodi Jeremy Hunt.

“Mae’n un o weinidogion a seneddwyr mwyaf profiadol ac uchel ei barch yn y Llywodraeth ac mae’n rhannu fy argyhoeddiadau a’m huchelgeisiau ar gyfer ein gwlad.”

Tro pedol

Yn dilyn penodiad Jeremy Hunt yn Ganghellor, fe gyhoeddodd Liz Truss dro pedol ar dreth gorfforaeth.

Mae’r tro pedol yn golygu y bydd yn codi o 19% i 25% fis Ebrill nesaf – cam ddylai ychwanegu tua £18bn y flwyddyn mewn refeniw treth i goffrau’r Llywodraeth.

Mae treth gorfforaeth yn cael ei thalu ar elw gan gwmnïau’r Deyrnas Unedig a chwmnïau tramor sydd â swyddfeydd yn y Deyrnas Unedig.

Cyn i’r Ceidwadwyr ddod i rym yn 2010, roedd yn 28%, ond cafodd ei dorri sawl gwaith cyn cael ei ostwng i 19% yn 2017.

Yn ei Gyllideb fis Mawrth, cyhoeddodd y cyn-Ganghellor, Rishi Sunak, y byddai’r dreth yn dringo o 19% i 25% ym mis Ebrill 2023.

Dywedodd ei bod yn deg gofyn i gwmnïau gyfrannu mwy wedi i’r Llywodraeth wario biliynau o bunnau yn eu cefnogi yn ystod pandemig Covid.

Fodd bynnag, roedd Liz Truss wedi addo gwrthdroi’r penderfyniad cyn i’w thro pedol gael ei gadarnhau heddiw.

“Mae’n amlwg bod rhannau o’n Cyllideb fach wedi mynd ymhellach ac yn gyflymach nag oedd marchnadoedd yn ei ddisgwyl,” meddai Liz Truss.

“Felly mae’n rhaid i’r ffordd rydyn ni’n cyflawni ein huchelgais newid.

“Mae angen i ni weithredu nawr i dawelu meddyliau marchnadoedd ac arddangos ein disgyblaeth ariannol.

“Felly rwyf wedi penderfynu cadw’r cynnydd mewn treth gorfforaeth oedd wedi ei gynllunio gan y Llywodraeth flaenorol.

“Rwyf wedi gweithredu’n bendant heddiw oherwydd fy mlaenoriaeth yw sicrhau sefydlogrwydd economaidd ein gwlad.

“Fel Prif Weinidog, byddaf bob amser yn gweithredu er budd y genedl.

“Dyma fy ystyriaeth gyntaf bob tro. Dwi eisiau bod yn onest. Mae hyn yn anodd. Ond byddwn yn dod drwy’r storm hon a byddwn yn sicrhau’r twf cryf a pharhaus a all drawsnewid ffyniant ein gwlad am genedlaethau i ddod.”