Mae gwneud gwersi am hanes trefedigaethol Prydain yn yr ysgol yn orfodol “yn ddim byd ond plastar” dros yr ymdrechion i recriwtio a denu mwy o athrawon i Gymru, yn ôl arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig.
Cymru yw’r wlad gyntaf i wneud y gwersi’n orfodol, ac mae athrawon yn derbyn hyfforddiant gwrth-hiliaeth.
Yn ôl Andrew RT Davies, mae Cymru wedi gweld gostyngiad o 10% yn nifer yr athrawon ers 2011, sy’n cyfateb i gyfanswm o 4,000 er bod 7,000 yn rhagor o ddisgyblion.
“O foral gwael i maint dosbarthiadau mawr a’r siambls wrth gyflwyno’r cwricwlwm newydd, dydy Llywodraeth Cymru ddim yn gwneud unrhyw ymdrech i gystadlu am dalent dysgu gwych a’u cadw,” meddai.
“Dydy’r penderfyniad hwn yn ddim byd mwy na phlastar na fydd yn gwneud dim i ddenu mwy o athrawon i Gymru.
“Mae angen i Lafur wneud yn well.”
Ymateb Llywodraeth Cymru
“Mae wedi bod yn bleser lansio’r prosiect cyffrous hwn yn Ysgol Uwchradd Llanwern, ac yn bleser i weld y gwaith pwysig sydd eisoes yn cael ei wneud gan y disgyblion a’r athrawon er mwyn gwneud yr ysgol a’r addysgu’n wrth-hiliol yng ngwir ystyr y gair,” meddai Jeremy Miles, Ysgrifennydd Addysg Cymru.
“Bydd y dull gweithredu cenedlaethol hwn ar gyfer dysgu proffesiynol, sydd o safon uchel, yn helpu’r gweithlu addysg i gyflwyno cwricwlwm sy’n adlewyrchu ac yn parchu pawb.
“Rwy’n annog pob addysgwr yng Nghymru i ymgymryd â DARPL wrth i ni weithio tuag at ein uchelgais o greu Cymru Wrth-hiliol erbyn 2030.”