Mae Liz Saville Roberts yn dweud bod Liz Truss “allan o’r golwg ac allan o rym”.

Daw hyn ar ôl i Brif Weinidog y Deyrnas Unedig fethu â mynd i San Steffan i ateb cwestiwn brys gan Syr Keir Starmer, arweinydd y Blaid Lafur, am ei phenderfyniad i ddiswyddo’r Canghellor Kwasi Kwarteng.

Roedd adroddiadau pan gafodd ei ddiswyddo fod yna anghydweld rhwng y prif weinidog a’i Changellor ynghylch eu polisi economaidd i fynd i’r afael â’r argyfwng costau byw.

Ers hynny, mae Liz Truss wedi gwneud tro pedol ar ei pholisi ar ôl penodi Jeremy Hunt yn olynydd i Kwasi Kwarteng, sydd yn ffrind agos iddi.

Pan ddaeth y Prif Weinidog i rym, cafodd Therese Coffey ei phenodi’n Ddirprwy Brif Weinidog ond heddiw (dydd Llun, Hydref 17), Arweinydd Tŷ’r Cyffredin, fu’n ateb cwestiynau ar ei rhan.

Mewn neges yn ddiweddarach, ychwanegodd fod “Penny Mordaunt yn medru dweud wrthym na fu coup ac nad yw Liz Truss yn cuddio o dan ddesg”.

“Ond dydy hi ddim yn medru dweud wrthym beth ydi diben arweinyddiaeth absennol Liz Truss.”

Ychwanegodd yn San Steffan, “Dydy rhith y Canghellor newydd o gyfrifoldeb cyllidol yn methu celu rhag y ffaith fod achosi cyni mwy poenus yn ddewis gwleidyddol a wnaed i achub y prif weinidog absennol o ganlyniadau ei harbrawf ideolegol.

“Mae Llywodraeth Cymru eisoes yn wynebu diffyg o dros £4bn dros gyfnod o dair blynedd, ac mae gwasanaethau cyhoeddus yn agos at chwalu, a bydd rhagor o lymder yn cadarnhau anghydraddoldebau cyfoeth eang sy’n nodweddu’r Deyrnas Anunedig hon.

“A fydd hi’n cyfaddef rŵan fod yr esgus o godi’r gwastad yn farw?”

Wrth ymateb, dywedodd Penny Mordaunt, ar ran Liz Truss, y dylai “gofio ein bod ni wedi rhoi’r gyllideb fwyaf erioed i’r weinyddiaeth ddatganoledig, yn erbyn cefnlen o ddod i mewn i’r llywodraeth pan nad oedd arian ar ôl”.

Pwysleisiodd fod y llywodraeth “wedi cadw’r dreth ar danwydd i lawr, wedi cyflwyno’r Cyflog Byw, wedi creu system les fodern lle mae pobol yn well eu byd, ac wedi cael bron i bedair miliwn yn rhagor o bobol i mewn i’r byd gwaith”.