Mae Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, yn dweud bod datganiad economaidd Jeremy Hunt, Canghellor San Steffan, heddiw (dydd Llun, Hydref 17) yn “achosi ansicrwydd ehangach i aelwydydd a’r sector busnes”.
Roedd datganiad y Canghellor newydd, i bob pwrpas, yn dro pedol ar gyhoeddiad ei ragflaenydd Kwasi Kwarteng ychydig wythnosau’n ôl, cyn i hwnnw gael ei ddiswyddo gan Liz Truss, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig.
Yn ei gyhoeddiad, fe wnaeth Jeremy Hunt dorri’n ôl ar y pecyn cymorth ynni a dileu bron bob un o’r toriadau trethi oedd wedi’u haddo yng nghyllideb fach Kwarteng fis diwethaf.
Daw hyn yn sgil wythnosau o ansefydlogrwydd i farchnadoedd ariannol.
“Mae datganiad Hunt yn arwydd o’r difrod ffiaidd mae’r Ceidwadwyr yn parhau i’w achosi i aelwydydd, busnesau ac unigolion,” meddai Jane Dodds.
“Y cyfan mae ei ddatganiad heddiw wedi’i wneud ydy achosi ansicrwydd ehangach i aelwydydd a’r sector busnes.
“Mae’r Ceidwadwyr yn chwalu’r economi efo pob dydd sy’n mynd heibio ac yn creu hafoc i forgeisi pobol.
“Rŵan maen nhw’n bwriadu achosi rhagor o ddioddefaint drwy gynyddu biliau ynni, codi trethi a thorri gwasanaethau cyhoeddus hanfodol.
“Bydd torri’r gwasanaethau cyhoeddus hyn yn gweld sgil-effeithiau i Lywodraeth Cymru gan y gallai cyllidebau adrannau allweddol megis addysg ac iechyd gael eu gwasgu’n dynnach fyth.
“Y peth gwaethaf yw eu bod nhw’n dal i fod yn benderfynol o warchod cwmnïau olew a nwy mawr rhag treth ffawdelw go iawn, ac maen nhw’n dal i dorri trethi ar gyfer y banciau mawr.
‘Symptom o broblem ehangach’
Yn ôl Jane Dodds, mae Liz Truss, Jeremy Hunt a Kwasi Kwarteng “yn symptom o broblem ehangach”.
“Mae’r Blaid Geidwadol gyfan hon allan ohoni,” meddai.
“Dyna pam fod angen Etholiad Cyffredinol arnom i’w symud nhw o rym a rhoi terfyn ar yr argyfwng dinistriol hwn.
“Mae pobol Cymru, yn blwmp ac yn blaen, yn haeddu gwell gan eu swyddogion etholedig na phantomeim parhaus nad oedd fyth yn ddoniol ers y cychwyn.”