Mae creu profion dyslecsia cyfrwng Cymraeg yn “fater o gyfiawnder”, yn ôl ymchwiliwr sydd wrthi’n datblygu adnoddau.

Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd yn datblygu cyfres newydd o brofion i wella’r ffordd o adnabod disgyblion ag anawsterau llythrennedd mewn ysgolion uwchradd Cymraeg.

Ar hyn o bryd, does dim profion nac adnoddau Cymraeg ar gael, ac mae disgyblion iaith gyntaf Cymraeg yn gorfod cael eu hasesu yn Saesneg.

Marjorie Thomas, sy’n fyfyrwraig PhD yn y brifysgol ac yn gyn-Gydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yn Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf yng Nghaerdydd, sydd wedi datblygu’r profion.

Yn sgil dros £100,000 o gyllid gan Lywodraeth Cymru, bydd yr ymchwilwyr yn cynnal treialon gyda disgyblion o Flwyddyn 7 i 11 mewn 21 o ysgolion ledled Cymru er mwyn safoni’r profion.

Diffyg llythrennedd yn “anghyfiawnder”

Dywed Marjorie Thomas ei bod hi wedi bod yn gweithio ym maes Anghenion Dysgu Ychwanegol a llythrennedd ers blynyddoedd, a’i bod hi’n gweld y ddoethuriaeth, sy’n cael ei hariannu gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, yn gyfle i newid arfer, ymchwilio i sut mae plant yn darllen, a beth mae modd ei wneud i wella’r sefyllfa.

“Rwy’n ymwybodol bod y profion rydyn ni’n gorfod eu defnyddio yn Saesneg, ac [o ran] ymwybyddiaeth am lythrennedd, dw i’n gweld anghyfiawnder bod plant yn dod ma’s o’r ysgol heb allu darllen a sgrifennu yn gywir; daeth y cyfle i wneud rhywbeth am y peth,” meddai wrth golwg360.

“Mae [cael adnoddau Cymraeg] yn bwysig iawn; mae Saesneg mor wahanol, mae hi’n llawer mwy cymhleth o ran sillafu a darllen.

“Mae hi’n cymryd hirach i ddysgu darllen Saesneg yn y lle cyntaf, lle mae Cymraeg yn weddol syml.

“Ond mae rhan helaeth o’r ymchwil hyd yma wedi bod drwy’r Saesneg, un ai o’r wlad hon neu o’r Unol Daleithiau.

“Mae yna fwy nawr yn cael ei wneud mewn ieithoedd Ewropeaidd, sy’n debycach i’r Gymraeg o ran eu strwythur.

“Ond os ydych chi’n mesur rhywun sydd wedi cael eu magu yn Gymraeg, wedi cael eu haddysg yn Gymraeg, ar fesur sydd wedi cael ei safoni ar boblogaeth Saesneg, yn amlwg dyw e ddim yn mynd i fod yn gywir.

“Mae e’n fater cyfiawnder yn un peth, ac os ydyn ni eisiau gwella pethau i blant Cymru, rydyn ni angen cael yr offer cywir fel ein bod ni’n gwybod ble maen nhw o ran eu llythrennedd, gwybod sut i’w symud nhw ymlaen, gallu treiddio lawr i beth yw’r broblem sy’n achosi’r diffyg darllen, ac mae’n bwysig gwneud hynny gan ystyried iaith y cartref ac iaith addysg plentyn.”

Yn rhan o’r grant gan Lywodraeth Cymru, bydd ysgolion yn cael tâl am gymryd rhan yn y treialon, fydd yn golygu cynnal profion fesul dosbarth ac un-i-un.

“Dechreuad yw hwn, mae mwy o bethau sydd angen, mwy o adnoddau achos dydyn ni ond yn canolbwyntio ar un agwedd o lythrennedd ac un math o ystod oedran,” meddai Marjorie Thomas wedyn.

“Bydde fe’n dda gweld pethau’n newid o ran dysgu darllen a sillafu yng Nghymru.”

‘Dim byd ar gael’

Dr Rhiannon Packer o Brifysgol Metropolitan Caerdydd yw’r Cyfarwyddwr Astudiaethau sydd wedi bod yn cefnogi Marjorie Thomas i ddatblygu’r profion, a bydd y ddwy ohonyn nhw’n rhan o’r gwaith safoni.

“Ar hyn o bryd mae’r profion ond ar gael yn Saesneg, ac mae’n golygu wedyn bod plant efallai’n cael eu hasesu yn eu hail iaith,” meddai Dr Rhiannon Packer wrth golwg360.

“Os ydyn nhw’n mynd i ysgolion Cymraeg, efallai nad ydyn nhw’n cael cyfle i ddangos eu gallu nhw yn y Gymraeg, achos mae’r Gymraeg yn gwbl wahanol i’r Saesneg, mae’r orgraff yn gwbl wahanol.”

Dywed mai’r gobaith yw eu bod nhw’n gallu defnyddio’r prawf ar gyfer trefniadau mynediad ar gyfer arholiadau, fel bod disgyblion sy’n cael anawsterau â’u llythrennedd yn cael amser ychwanegol ac ati wrth sefyll arholiadau.

Bydd y profion yn addas i ddisgyblion sy’n dod o gartrefi dwyieithog, yn ogystal â siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf.

“Y canllawiau yw, os ydych chi’n meddwl bod dyslecsia ar rywun, bod angen iddyn nhw ddatblygu eu hieithoedd ddigon da fel eu bod nhw’n gallu cael eu profi,” meddai wedyn.

“Os ydych chi’n siarad am blentyn uniaith Gymraeg, am fod y profion i gyd ond ar gael yn Saesneg, mae’n golygu eu bod nhw’n gorfod meithrin rhuglder yn y Saesneg cyn eu bod nhw’n gallu cael eu hasesu.

“Mae’n golygu eu bod nhw efallai’n hŷn wrth gael eu hasesu.

“Er bod hwn ond ar gael ar hyn o bryd ar gyfer disgyblion uwchradd, mae’n well na dim byd, achos ar hyn o bryd does dim byd ar gael.”

‘Asesu yn hanfodol’

Mae’r ymchwilwyr hefyd yn bwriadu rhoi hyfforddiant i athrawon ar sut i ddefnyddio’r prawf, ac mae Llywodraeth Cymru am ei roi ar Hwb am ddim i bob ysgol uwchradd allu ei ddefnyddio o ddechrau 2026.

“Mae asesu yn hanfodol er mwyn darparu cymorth i ddysgwyr sydd â dyslecsia,” meddai Lynne Neagle, Ysgrifennydd Addysg Cymru.

“Bydd y cyllid hwn yn galluogi ymchwilwyr i greu system newydd sbon, wedi’i theilwra ar gyfer anghenion dysgwyr mewn addysg cyfrwng Cymraeg, er mwyn creu amgylchedd dysgu cwbl gynhwysol lle mae pob plentyn yn cael cyfle i ffynnu.”

Disgybl yn ysgrifennu mewn llyfr nodiadau

Diffyg darpariaeth dyslecsia Cymraeg yn “syfrdanol”

Cadi Dafydd

“Ar hyn o bryd, mae o mor anodd cael at y cymorth sydd ar gael yng Nghymru”