Mae’r diffyg darpariaeth Cymraeg ar gyfer dyslecsia yn “syfrdanol”, yn ôl rhiant sy’n galw am newid.
Pan gafodd un o blant Shari Llewelyn ddiagnosis yn ystod ei thymor olaf yn yr ysgol gynradd, fe wnaeth y teulu ddarganfod nad oes gwefan ddwyieithog ar gyfer adnoddau dyslecsia.
Bellach wedi sefydlu Rhwydwaith Dyslecsia a’r Celfyddydau i ddod ag arbenigedd yn y maes ynghyd, mae’r fam ac arlunydd yn galw am greu gwefan hawdd i’w chyrraedd yn Gymraeg sy’n ddyslecsia-gyfeillgar ac yn nodi’n glir pa wasanaethau ac adnoddau sydd ar gael i rieni, plant, oedolion ac athrawon.
Ynghyd â hynny, roedd hi’n syndod darganfod nad ydy’r prawf dyslecsia ar gael yn Gymraeg i blant dros ddeuddeg oed, yn enwedig o ystyried mai problem ieithyddol yw dyslecsia.
Mae gwaith i’w wneud o hyd er mwyn codi ymwybyddiaeth mewn ysgolion i gael gwared â’r stigma sydd ynghlwm â dyslecsia, meddai Shari Llewelyn, gan ychwanegu bod angen sicrhau bod cymorth ar gael i blant yn gynt.
“Pan wnaethon ni gael y diagnosis, doedd gennym ni ddim gwybodaeth am be oedd dyslecsia yn iawn,” meddai wrth golwg360.
“Y peth cyntaf mae unrhyw un yn ei wneud ydy mynd ar y we i gael gwybodaeth, ac roedd o fel bod o gymaint o ryddhad i [fy merch] i glywed lleisiau eraill ar YouTube yn siarad am ddyslecsia, roedd yna gyffro o sylwi bod yna rywun arall yr un peth â hi, ac roedd o fel ryw bwysau’n codi oddi ar ysgwyddau rhywun wrth gael deall be’ oedd dyslecsia.
“Ond wrth gwrs doedd yna ddim byd yn ei hiaith hi o gwbl, ac wrth ymchwilio mewn i’r peth doedd yna ddim gwefan ddwyieithog ganolog yng Nghymru’n rhannu gwybodaeth.
“Gan mai problem ieithyddol ydy hon, roedd o’n syfrdanol bod yna ddim byd yn enwedig efo’r Llywodraeth a’r nod o drio cael miliwn o siaradwyr erbyn 2050.”
Mae gan Gymdeithas Ddyslecsia Prydain [y British Dyslexia Association] wefan, ond dydy honno ddim yn ddwyieithog.
Wrth gyfeirio at yr arian mae Llywodraeth Cymru yn ei fuddsoddi mewn dysgu Cymraeg, mae Shari Llewelyn dweud bod angen sicrhau bod dysgwyr â dyslecsia ar y daith honno hefyd.
“Os ydyn ni eisiau i’r Gymraeg ffynnu, mae angen i ni edrych ar bob agwedd o’r iaith,” meddai.
‘Dathlu’r gwaith’
Ar ôl sylwi ar y diffyg adnoddau, aeth Shari Llewelyn ati i ymchwilio ar y we a chyfarfod arbenigwyr.
“Roeddwn i’n disgwyl i’r arbenigwyr ddweud: ‘Hold on, rydyn ni yn gwneud gwaith, a pwy wyt ti i ddweud ein bod ni ddim’. Ond dim felly oedd hi,” meddai.
“Be wnes i ddarganfod oedd bod yr arbenigwyr yma’n gweithio mor galed yn creu adnoddau, yn trio gwneud gwahaniaeth yng Nghymru, yn croesawu be’ oeddwn i’n wneud.
“Mae yna waith arbennig yn mynd ymlaen yng Nghymru efo arbenigedd ffantastig, mae eisiau dathlu’r gwaith yna.
“Dw i’n dod o gefndir celfyddydol a dw i’n gwybod [faint o] rym sydd gan y celfyddydau i ddweud stori, i godi ymwybyddiaeth, i ysbrydoli.”
Gydag arian gan Gyngor Celfyddydau Cymru, sefydlodd Shari Llewelyn Rwydwaith Dyslecsia a’r Celfyddydau yng Nghymru fel lle i glywed lleisiau pawb mewn un man i drafod y ffordd ymlaen.
“Y mwyaf o leisiau, a’r mwyaf sy’n dod at ei gilydd, y cryfaf a mwyaf y newid fedrwn ni’i wneud,” meddai.
“Y prif beth sydd ei angen yng Nghymru ydy platfform, gwefan.”
Mae’r Alban yn arloesi yn y maes ac yn anelu at fod yn genedl dyslecsia-gyfeillgar, ac mae hyd yn oed opsiwn ar wefan Dyslexia Scotland i’r wefan adrodd y testun yn Gymraeg.
Mwy nag addysg
Er bod yna lot o waith da yn digwydd yng Nghymru, mae yna lot i’w wneud hefyd, yn ôl Shari Llewelyn.
“Mae’n rhaid cael prawf dyslecsia i gael help mewn arholiadau yn yr ysgol, mae’r prawf yna’n ofnadwy o gostus – rhwng £300 a £600. Dydy o ddim yn bodoli eto yn y Gymraeg chwaith,” meddai.
“Mae hynna’n comprimising os mai eich iaith gyntaf chi ydy Cymraeg.”
Ar hyn o bryd, mae gwaith yn cael ei wneud gan Dr Rhiannon Packer yng Nghaerdydd i drio datblygu prawf Cymraeg.
“Ond does yna ddim cydraddoldeb wedi bod,” meddai Shari Llewelyn.
“Os oes gennych chi bres a’ch bod chi’n Saesneg, mae gennych chi well siawns o lwyddo a chael cymorth.
“Ar hyn o bryd, mae o mor anodd cael at y cymorth sydd ar gael yng Nghymru.”
Mae angen i ddyslecsia gael ei adnabod ymysg plant pan maen nhw’n iau, meddai.
“Dydy o ddim yn fai ar yr ysgolion a’r athrawon o gwbl, does ganddyn nhw ddim hyfforddiant i’w adnabod o.
“Os ydych chi eisiau cael hyfforddiant yng Nghymru, mae’n rhaid i chi dalu o’ch poced eich hun a gwneud o yn eich amser eich hun.
“Pa mor ymarferol ydy hynna efo pwysau gwaith athrawon? Mae o’n hollol annheg.
“Os fedrwn ni siarad am y peth a chael gwared ar y stigma… Mae yna stigma yn dal i fod mewn ysgolion ar draws Cymru.
“Dw i’n gwybod am bobol sydd wedi rhoi eu plant mewn ysgolion preifat i gael cymorth ac sydd ddim yn cael dim addysg Gymraeg.”
Dydy’r mater ddim yn gyfyngedig i faes addysg chwaith, er ei bod hi’n cael ei chyfeirio’n ôl at adran addysg ychwanegol Llywodraeth Cymru bob tro mae hi’n cysylltu â nhw.
“Ar ddiwedd y dydd, mae o’n effeithio iechyd, iaith, diwylliant. Yn yr hirdymor, mae o’n effeithio’r economi.
“Be rydych chi’n gael mewn ysgolion ydy plant sy’n methu oherwydd y ffordd mae addysg wedi cael ei roi at ei gilydd.
“Mae yna gyfran uchel, maen nhw wedi ffeindio, o bobol mewn carchardai efo dyslecsia achos dydy’r help ddim wedi bod yna iddyn nhw, yn hawdd i’w gyrraedd.”
‘Arwain y ffordd’
Yn ogystal â rhoi cefnogaeth ariannol i Dyslexia Scotland, mae gan Lywodraeth yr Alban grŵp trawsbleidiol ar ddyslecsia.
“Mi fysa fo’n dda cael cefnogaeth y Llywodraeth fel maen nhw’n gael yn yr Alban,” meddai Shari Llewelyn.
Cafodd hi sgwrs â Dean Bragonier, arbenigwr ar ddyslecsia o’r Unol Daleithiau sy’n teithio’r byd yn sefydlu prosiectau Noticability i helpu pobol ifanc â dyslecsia, a soniodd am agwedd gwahanol wledydd tuag at ddyslecsia.
“’Mae yna rai gwledydd yn hollol barbaric’ oedd ei eiriau fo, ac mae rhai wir yn arloesi ac yn arwain y ffordd.
“Fysa fo mor dda tasa ni’n gallu tyrchu’n hunain i fod yn un o’r gwledydd yna i arwain y ffordd.”
Gweithio i greu prawf ar gyfer pob oed
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod prawf dyslecsia ar gael i blant hyd at bron i ddeuddeg oed yn Gymraeg, a’u bod nhw’n gweithio gyda phartneriaid i geisio cynnig profion yn Gymraeg ar gyfer pob oed.
“Mae adnoddau cefnogi ar gael yn Saesneg a Chymraeg ar Hwb i athrawon a rhieni.
“Rydyn ni wedi ymroi i greu system addysg gynhwysol fel bod dysgwyr, gan gynnwys rhai gyda dyslecsia, yn gallu cael mynediad at y safon uchaf o addysg a chyrraedd eu llawn botensial.
“Rydyn ni hefyd yn datblygu sgiliau’r gweithlu fel eu bod nhw’n gallu darparu cymorth effeithiol i ddysgwyr yn yr ysgol a chael mynediad haws at gefnogaeth, gwybodaeth a chyngor arbenigol. Ni ddylai’r un athro orfod disgwyl talu am unrhyw hyfforddiant sy’n ymwneud â dyslecsia.”