Mae gwleidyddion Arfon wedi cyhoeddi llyfryn cymorth costau byw sy’n cynnwys gwybodaeth am y gefnogaeth ddiweddaraf.
Bydd y ddogfen ar-lein, sydd wedi cael ei chyhoeddi gan gynrychiolwyr yr etholaeth yn y Senedd a San Steffan, yn cael ei diweddaru bob wythnos i sicrhau bod y wybodaeth yn berthnasol a chyfredol.
Pwrpas y ddogfen yw codi ymwybyddiaeth o’r gefnogaeth sydd ar gael i bobol er mwyn helpu â’r argyfwng costau byw.
“Rydym yn byw mewn cyfnod o galedi ariannol digynsail i deuluoedd ar draws Arfon a Chymru gyfan,” meddai Siân Gwenllian, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Arfon.
“Rydym yn deall fod pryder gwirioneddol am y gaeaf o’n blaenau, ac am y cynnydd mewn biliau a chostau byw’n gyffredinol.
“Rydym wedi derbyn nifer o ymholiadau gan etholwyr pryderus, ac rydym wedi penderfynu llunio llyfryn, sydd ar gael ar-lein ac, ar gais, ar bapur.”
‘Pwysau aruthrol’
Ychwanega Hywel Williams, sy’n Aelod Seneddol Plaid Cymru’r etholaeth, ei bod hi’n gallu bod yn anodd gwybod at bwy i droi am gyngor a chymorth.
“Mae teuluoedd ac unigolion yn Arfon o dan bwysau aruthrol oherwydd prisiau ynni cynyddol, costau bwyd yn codi a chynnydd sylweddol mewn taliadau morgais a rhent,” meddai.
“Rydym wedi llunio’r llyfryn defnyddiol hwn i gyfeirio ein hetholwyr at gymorth ac arweiniad.
“O gyngor ar fudd-daliadau a banciau bwyd i helpu gyda biliau – rydym wedi ymdrechu i gynnwys cymaint o wybodaeth â phosibl i wneud pethau’n haws i bobol.”