Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru’n dweud eu bod nhw wedi canfod fod carthion wedi’u gollwng ar draethau Baner Las Cymru 579 o weithiau, a hynny dros gyfnod o gyfanswm o 6,757 o oriau.

Cafodd carthion eu gollwng ar draeth Poppit ger Aberteifi 79 o weithiau, gan bara cyfanswm o 1,518 o oriau.

Ar draeth y de yn Aberystwyth roedd y rhan fwyaf o ollyngiadau, 142.

Etholaeth Preseli Penfro welodd y nifer fwyaf o ollyngiadau ar draws Cymru, gyda 6,754 o ollyngiadau yn ystod 2021, sy’n gyfwerth â 79,501 o oriau.

Dwyrain Caerfyrddin oedd yn ail, a Dwyfor Meirionnydd yn drydydd.

Daw’r canfyddiadau yn dilyn adroddiad gan yr ymgyrchwyr Surfers Against Sewage, sydd wedi adrodd am ollyngiadau anghyfreithlon sy’n golygu bod Dŵr Cymru wedi bod yn gollwng carthion mewn tywydd sych pan na chafwyd fawr o law.

Fe ddaeth yr arolwg i’r casgliad bod niferoedd cynyddol o bobol yn mynd yn sâl ar ôl bod yn nofio mewn dŵr, gan gynnwys traeth Poppit.

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru’n galw ar Lywodraeth Cymru i atal bonws penaethiaid hyd nes bod gollyngiadau’n cael eu hatal, ac i’r arian bonws sy’n cael ei roi gael ei wario ar wella isadeiledd.

Maen nhw hefyd yn ymgyrchu tros fuddsoddi yng nghorff Cyfoeth Naturiol Cymru er mwyn gwarchod mannau nofio Cymru a gwella safonau ar y cyfan.

Mae penaethiaid Dŵr Cymru wedi derbyn £2.4m dros y ddwy flynedd diwethaf, gan gynnwys £808,000 mewn arian bonws er bod y cwmni’n un nid-er-elw, meddai’r blaid.

‘Nofio mewn carthion’

“Tra bod penaethiaid Dŵr Cymru’n ennill bonws mawr, rydym yn cael ein gadael yn nofio mewn carthion,” meddai Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru ac Aelod dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru yn y Senedd.

“Mae nifer o deuluoedd yng Nghymru’n gofidio y gallai taith i’r traeth efo’r plant, adeiladu cestyll tywod a chwarae yn y môr, eu gwneud nhw’n sâl rŵan.

“Dydy hi ddim yn deg, ac mae Cymru’n haeddu gwell.

“Rhaid i Lywodraeth Lafur Cymru ddangos arweiniad a gwarchod ein traethau.

“Ddylen nhw ddim cuddio y tu ôl i ddiffyg gweithgarwch gan y Ceidwadwyr yn San Steffan: maen ganddyn nhw’r grym yn y Senedd i lanhau ein dŵr, adfer natur a gwneud ein traethau’n ddiogel eto.

“All y llywodraeth ddim gadael i benaethiaid dŵr gael dod i ffwrdd â hyn ragor.

“Dylen nhw wrando ar alwadau’r Democratiaid Rhyddfrydol i atal penaethiaid dŵr rhag gwobrwyo’u hunain am fethiant, a buddsoddi mewn camau gwarchod a glanhau ein traethau ac afonydd sy’n cael eu trysori, cyn ei bod hi’n rhy hwyr.”

Aberaeron ac Aberarth

Un sy’n cefnogi galwadau ei harweinydd yw Elizabeth Evans, Cynghorydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn Aberaeron ac Aberarth.

“Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Ngheredigion wedi bod yn codi mater gollwng carthion yn ein hafonydd a’n moroedd ers peth amser nawr, a dydy’r adroddiad diweddaraf ddim ond yn cadarnhau ein gofidion,” meddai.

 

“This practice is endangering human health, our local wildlife and the tourism industry that places like Ceredigion and West Wales as a whole rely on.

“It is quite frankly a scandal that the Labour-Plaid Cymru partnership in Cardiff Bay is not taking urgent action to ban sewage dumping.

“At the very least they could back Liberal Democrat calls for a ban on bonuses for the bosses of Welsh Water, which is officially a ‘non-profit’ until they get the issue under control.”