Bydd y Comisiwn Ffiniau i Gymru yn cyhoeddi ei gynigion diwygiedig ar gyfer y map newydd o etholaethau seneddol ddydd Mercher (Hydref 19).
Mae disgwyl i’r etholaethau newydd ddod i rym yn yr etholiad cyffredinol arferol nesaf.
Yn ogystal â chyhoeddi ei gynigion, bydd y Comisiwn yn agor ei gyfnod ymgynghori pedair wythnos olaf lle gall y cyhoedd rannu eu barn ar yr etholaethau arfaethedig.
Mae’r cynigion yn dilyn y cyfnod ymgynghori cychwynnol ac eilaidd, a phum gwrandawiad cyhoeddus ar gynigion cychwynnol y Comisiwn a gafodd eu cyhoeddi fis Medi y llynedd.
O dan reolau diwygiedig sydd wedi’u nodi yn Neddf Etholaethau Seneddol 1986, rhaid i bob etholaeth sy’n cael ei chynnig gan y Comisiwn Ffiniau i Gymru gynnwys rhwng 69,724 a 77,062 o etholwyr, ac eithrio Ynys Môn, sy’n etholaeth warchodedig.
Daearyddiaeth yn ystyriaeth bwysig
Mae’r Comisiwn wedi ystyried sawl ffactor wrth ddatblygu ei gynigion, yn ogystal â’r ystod statudol o etholwyr.
Mae daearyddiaeth (fel llynnoedd, afonydd, a mynyddoedd) wedi bod yn ystyriaeth bwysig, yn ogystal â ffiniau presennol megis ffiniau awdurdodau lleol a wardiau.
Mae’r Comisiwn hefyd wedi ystyried cysylltiadau lleol, megis rhannu hanes a diwylliant wrth iddo ddatblygu ei gynigion diwygiedig.
“Mae’r Comisiwn yn edrych ymlaen at gyhoeddi ei gynigion diwygiedig wrth i ni barhau â’r daith tuag at gwblhau’r map newydd o etholaethau Cymru,” meddai Shereen Williams, ysgrifennydd y Comisiwn Ffiniau i Gymru.
“Ar ôl derbyn y nifer uchaf erioed o ymatebion yn ystod ein hymgynghoriadau blaenorol, rydym wedi gwneud newidiadau i 22 o’r 32 etholaeth a gafodd eu cynnig gennym yn wreiddiol.
“Mewn rhai achosion, rydym wedi gwneud newidiadau sylweddol, a hefyd wedi cynnig naw newid enw o gymharu â chynigion cychwynnol Medi 2021.
“Mae ein cyfnod ymgynghori terfynol yn agor yfory felly byddem yn annog y cyhoedd i fanteisio ar yr un cyfle hwn sy’n weddill i leisio’ch barn a chael effaith cyn cyhoeddi’r argymhellion terfynol yr haf nesaf.”
Bydd y cynigion yn cael eu cyhoeddi ar wefan y Comisiwn Ffiniau i Gymru a’r porth ymgynghori am hanner nos ar Hydref 19, a bydd yr ymgynghoriad yn agor yn syth ar ôl cyhoeddi’r cynigion cychwynnol a bydd yn cau ar Dachwedd 15.
Yn dilyn y cyfnod ymgynghori terfynol, bydd y Comisiwn yn ystyried y cynrychiolaethau a gafodd eu derbyn ac yn cyflwyno ei adroddiad argymhellion terfynol i’r senedd erbyn Gorffennaf 1 y flwyddyn nesaf.
Bydd argymhellion y Comisiwn yn cael eu gweithredu gan y rheol ‘awtomatigrwydd’, sy’n golygu na fydd angen i’r Senedd gymeradwyo’r argymhellion mwyach.