“Nid oes esgus dros y sefyllfa enbyd,” yn ôl Ysgrifennydd Cyllid a Llywodraeth Leol Llywodraeth Cymru.

Mae Rebecca Evans wedi bod yn ymateb i dro pedol Jeremy Hunt, Canghellor newydd San Steffan, sydd bron iawn â dileu holl bolisïau ei ragflaenydd Kwasi Kwarteng, a gafodd ei ddiswyddo gan Liz Truss, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, sydd bellach dan bwysau hefyd.

Mewn datganiad brys, dywedodd y Canghellor y bydd toriad o 1c i’r dreth incwm yn cael ei ohirio “am gyfnod amhenodol” nes bod cyllid y Deyrnas Unedig yn gwella, yn lle cael ei gyflwyno ym mis Ebrill y flwyddyn nesaf yn ôl y cyhoeddiad yng nghyllideb fach Kwasi Kwarteng dair wythnos yn ôl.

Dywed Jeremy Hunt, a gamodd i’r swydd ddydd Gwener (Hydref 14), mai dim ond tan fis Ebrill y bydd gwarant pris ynni’r llywodraeth yn gyffredinol, nid am ddwy flynedd yn ôl y cynllun gwreiddiol.

Ar ôl mis Ebrill, fe fydd y cynllun yn cael ei dargedu’n fwy yn dilyn adolygiad ynghylch sut i gefnogi biliau ynni pobol o’r amser hwnnw, meddai.

Mae’r newidiadau a gafodd eu cyhoeddi gan Jeremy Hunt yn cynnwys:

  • dim toriadau i gyfraddau treth difidend
  • diddymu llacio rheolau IR35 ar gyfer yr hunangyflogedig a gyflwynwyd yn 2017 a 2021
  • dim cynllun siopa newydd heb TAW ar gyfer ymwelwyr tramor â’r DU
  • dim rhewi ar gyfraddau treth alcohol
  • cyfradd sylfaenol treth incwm i aros ar 20%, nid gostwng i 19% o fis Ebrill 2023
  • gwarant pris ynni tan fis Ebrill 2023 yn unig.

 

“Yn sgil y cythrwfl parhaus sydd wedi ei achosi gan y gyllideb fechan, gyda’r gobaith o sefydlogi’r marchnadoedd ariannol a lleihau maint y twll sydd wedi ei rwygo mewn cyllid cyhoeddus, mae’r Canghellor newydd yn awr wedi gwrthdroi’r rhan fwyaf o’r newidiadau treth a wnaed ychydig wythnosau yn unig yn ôl,” meddai Rebecca Evans.

“Yn sgil ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd, y pandemig a’r argyfwng costau byw, roedd y rhagolygon economaidd eisoes yn heriol.

“Fodd bynnag, nid oes esgus dros y sefyllfa enbyd y mae cyllid cyhoeddus y Deyrnas Unedig ynddi ar hyn o bryd.

“Mae hyn yn ganlyniad uniongyrchol i’r mesurau diffygiol a di-hid a gyhoeddwyd yng nghyllideb fechan Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar 23 Medi ac a oedd yn biler canolog ymgyrch y Prif Weinidog ar gyfer yr arweinyddiaeth.

“Mae’r gyllideb fechan wedi achosi anhrefn yn y marchnadoedd ariannol; mae costau morgeisi wedi codi’n sydyn, fel y mae costau benthyca’r llywodraeth; mae Banc Lloegr wedi gorfod cymryd mesurau eithriadol i atal cwymp mewn cronfeydd pensiwn; ac mae mwy o bwysau fyth wedi cael ei roi ar gyllidebau aelwydydd.

“O ganlyniad, mae ein heconomi a chyllid y Deyrnas Unedig nawr mewn sefyllfa lawer gwaeth nag yr oeddent lai na mis yn ôl.”

‘Cyfnod newydd o gyni’

Wrth edrych tua’r dyfodol, dywed Rebecca Evans fod “datganiad y Canghellor heddiw wedi awgrymu bod cyfnod newydd o gyni o’n blaenau”.

“Yr aelwydydd sydd eisoes yn ei chael hi’n anodd cael dau ben llinyn ynghyd fydd yn cael eu heffeithio fwyaf.

“Mae ein gwasanaethau cyhoeddus yn wynebu toriadau ac efallai y bydd swyddi’n cael eu colli.

“Bydd y camau a gyhoeddwyd gan y Canghellor yn crebachu’r economi ac o ganlyniad bydd y dirwasgiad yn ddyfnach ac yn hirach – yn wrthgyferbyniad llwyr i’r hyn sy’n cael ei alw’n gynllun twf.

“Er bod y Canghellor wedi nodi mai blaenoriaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig wrth wneud y penderfyniadau anodd sydd o’i blaen fydd diogelu’r bobol fwyaf agored i niwed, nid oedd ganddo unrhyw gysur i’w gynnig i’r bobol hynny heddiw.

“Mae’r cyhoeddiad ynghylch y newidiadau i’r cymorth ynni yn creu ansicrwydd pellach i aelwydydd a busnesau sydd eisoes yn pryderu am gostau.

“Dro ar ôl tro, nid yw Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi manteisio ar gyfleoedd i wella diogelwch ynni ar gyfer y dyfodol na mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.

“Rhaid iddi fod yn fwy uchelgeisiol o ran ei buddsoddiad mewn ynni gwyrdd a datgarboneiddio.

“Mae’n rhaid i’r Canghellor ddefnyddio ei ddatganiad ar 31 Hydref i roi sicrwydd na fyddwn ni’n gweld toriadau mewn gwariant a fyddai’n effeithio ar wasanaethau cyhoeddus, swyddi, a’n heconomi.

“Yn hytrach, mae ganddo gyfle gwirioneddol i roi cymorth mawr ei angen i’r bobol fwyaf agored i niwed, wedi ei ariannu drwy ddefnyddio ysgogwyr treth Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn decach, gan gynnwys trethu’r enillion ffawdelw yn y sector ynni.

“Mae chwyddiant eisoes wedi erydu setliad cyllideb Llywodraeth Cymru yn sylweddol i lefelau pryderus o isel.

“Mae’r Datganiad hwn yn dal i fod ymhell iawn o’r hyn sydd ei angen i ymateb i’r heriau sylweddol iawn sy’n wynebu ein gwasanaethau cyhoeddus a’n gweithwyr.

“Rhaid i Lywodraeth y Deyrnas Unedig roi’r hyblygrwydd cyllidebol ychwanegol inni i gefnogi ein hymateb yng Nghymru.

“Er na fyddwn yn gallu diogelu pobl a gwasanaethau rhag effaith lawn gweithredoedd Llywodraeth y Deyrnas Unedig, fe fyddwn ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i helpu aelwydydd, gwasanaethau a busnesau drwy’r argyfwng hwn.

“Byddwn yn cyhoeddi Cyllideb Llywodraeth Cymru ar 13 Rhagfyr, gan ymateb yn ystyriol ac yn ofalus i’r argyfwng ac ystyried y rhagolwg cyllidol llawn a ddarperir gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol i roi cymaint o sicrwydd â phosibl i’n gwasanaethau cyhoeddus a’n partneriaid.

“Er bod ein hadnoddau’n gyfyngedig, ac na fydd y cyhoeddiad heddiw yn gwneud dim i leddfu sefyllfa ariannu Llywodraeth Cymru, a oedd eisoes yn un heriol, ein blaenoriaeth fydd gwarchod y bobol fwyaf agored i niwed a chreu Cymru gryfach, decach a gwyrddach sy’n diogelu llesiant cenedlaethau’r dyfodol.”

Y gwleidydd yn defnyddio ei ddwylo i egluro pwynt

“Dyfodol mwy sefydlog a llewyrchus gydag annibyniaeth”: economegwyr a gwleidyddion yn ymateb i dro pedol Jeremy Hunt

Cadi Dafydd ac Elin Wyn Owen

Mae Canghellor San Steffan wedi cael gwared ar bron bob un o doriadau treth y Prif Weinidog Liz Truss gafodd eu cyhoeddi dair wythnos yn ôl

“Allan o’r golwg ac allan o rym”

Liz Saville Roberts yn ymateb wrth i Liz Truss fethu â mynd i San Steffan i ateb cwestiwn brys gan Syr Keir Starmer, arweinydd yr wrthblaid
Jane Dodds

Jane Dodds yn cyhuddo’r Ceidwadwyr o “ddifrod ffiaidd” tros bolisi economaidd Jeremy Hunt

Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru’n codi pryderon am “ansicrwydd ehangach i aelwydydd a’r sector busnes”