Mae honiadau bod creu gofodau gwarchodol o amgylch clinigau erthylu yn atal rhyddid mynegiant yn “nonsens”, medd Aelod Seneddol Llafur Gogledd Caerdydd.
Fe wnaeth Aelodau Seneddol gefnogi cynlluniau i greu gofodau gwarchodol (buffer zones) o amgylch canolfannau erthylu yng Nghymru a Lloegr, i atal unrhyw darfu ar gleifion gan brotestwyr, ddoe (Hydref 18), ac mae Anna McMorrin wrth ei bodd â’r fuddugoliaeth.
Dan y gyfraith arfaethedig, byddai hi’n anghyfreithlon aflonyddu, atal neu ymyrryd ag unrhyw un sy’n mynd i glinig erthylu.
Byddai’r gyfraith yn berthnasol o fewn 150 medr i glinigau, a gallai unrhyw un sy’n torri’r gyfraith wynebu hyd at chwe mis yn y carchar.
Fe wnaeth y cynnig i ddiwygio Bil Trefn Gyhoeddus Llywodraeth y Deyrnas Unedig gael cefnogaeth 297 o Aelodau Seneddol, tra bod 110 wedi pleidleisio yn ei erbyn.
“Roedd hwn yn rhan o’r Fil Trefn Gyhoeddus y Llywodraeth, ac roedd hi’n syndod bod y Llywodraeth eisiau cynnwys cyfreithiau oedd yn parhau i ganiatáu i bobol brotestio ac aflonyddu menywod sy’n mynd am erthyliadau tu allan i glinigau erthylu,” meddai Anna McMorrin wrth siarad â golwg360.
“Allwch chi ddychmygu’r trawma llwyr o orfod gwneud y penderfyniad anodd hwnnw, heb sôn am orfod cael eich aflonyddu wrth gerdded mewn i glinig erthylu.
“Dw i wrth fy modd ein bod ni wedi ennill y bleidlais hon, ac ein bod ni nid yn unig wedi’i hennill hi, ond wedi cael buddugoliaeth bendant, felly nawr bydd pobol yn cael eu cadw oddi wrth glinigau erthylu a bydd gofodau gwarchodol.”
Tri o Aelodau Seneddol Cymru wnaeth bleidleisio yn erbyn y cynnig, y Ceidwadwyr Robin Millar, Aberconwy; Alun Cairns, Bro Morgannwg; a David Jones, Gorllewin Clwyd.
Mae rhai gwrthwynebwyr, gan gynnwys yr Aelod Seneddol Ceidwadol Fiona Bruce, wedi dweud bod gan y parthau “oblygiadau difrifol, gan gynnwys bygythiadau i ryddid meddwl, cydwybod, mynegiant, cred ac ymgynnull”.
“Mae hynny’n nonsens, dydy bygwth ac aflonyddu ddim yn rhyddid mynegiant,” meddai Anna McMorrin wrth ymateb i hynny.
‘Trallod sylweddol’
Dros y blynyddoedd diwethaf, mae ymgyrchwyr gwrth-erthyliad wedi bod yn protestio tu allan i glinigau gan ffilmio menywod ac aelodau o staff, a hel ynghyd i ganu emynau.
Dywedodd Prif Weithredwr Gwasanaeth Cynghori Beichiogrwydd Prydain, Clare Murphy, bod 100,000 o fenywod y flwyddyn yn cael eu trin gan glinig neu ysbyty am erthyliad sy’n cael ei dargedu gan brotestwyr gwrth-erthyliad.
“Mae’r grwpiau hyn yn trio atal menywod rhag cael gofal erthyliad drwy ddangos lluniau graffeg o ffetysau, galw menywod yn ‘lofruddwyr’, a hongian dillad babis o amgylch mynedfeydd clinigau, gan achosi trallod sylweddol i fenywod,” meddai.
“Bydd y bleidlais yn dod â diwedd i’r gweithgarwch hwn.”