Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru’n pwyso ar Lywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig i ryddhau £5bn o gyllid sy’n ddyledus i Gymru yn sgil prosiect HS2.

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ystyried y rheilffordd fel “prosiect Cymru a Lloegr” er nad yw’r un darn o’r cledrau yng Nghymru, ac er bod asesiad economaidd yn dangos bod y prosiect yn achosi diffyg bach yn economi net Cymru.

O ganlyniad, mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn cyhuddo Llywodraeth y Deyrnas Unedig o osgoi talu dros £5bn o gyllid i Lywodraeth Cymru, y gellid ei wario ar wella’r rheilffyrdd yng Nghymru, meddai’r blaid.

I’r gwrthwyneb, mae’r Alban wedi derbyn £10bn o gyllid yn sgil y prosiect.

Yn ôl Canolfan Llywodraethiant Cymru, rhwng 2011 a 2019 roedd Cymru eisoes wedi derbyn £514m yn llai nag y dylai fod wedi’i dderbyn yn ôl poblogaeth y wlad ar gyfer isadeiledd.

Cafodd y mater ei godi gan Sarah Green, Aelod Seneddol y Democratiaid Rhyddfrydol, wrth iddi ofyn pam nad yw Cymru’n derbyn cyfran deg o’r arian.

Wrth ymateb, dywedodd David TC Davies, sy’n weinidog yn Swyddfa Cymru, fod HS2 yn brosiect ledled y Deyrnas Unedig.

Ond mae hynny’n groes i farn y Ceidwadwyr Cymreig, sy’n galw am ryddhau’r arian i’w wario yng Nghymru.

‘Nid prosiect Cymru a Lloegr mo’r prosiect hwn’

“Mae’r Llywodraeth Geidwadol yn parhau i amddifadu Cymru o’i chyfran deg o gyllid o HS2,” meddai Sarah Green, llefarydd Cymru y Democratiaid Rhyddfrydol.

“Nid prosiect Cymru a Lloegr mo’r prosiect hwn.

“Byddai £5bn o gyllid trafnidiaeth i’w wario ar y rhwydwaith rheilffyrdd yng Nghymru’n chwyldroadol.

“A’i roi yn ei gyd-destun, byddai ailagor y rheilffordd rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin yn costio £620m tra byddai trydaneiddio’r rheilffordd rhwng Abertawe a Chaerdydd yn costio £433m.

“Rhaid i Lywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig roi eu cyfran deg o gyllid i drethdalwyr Cymru, dydy hi ddim yn dderbyniol eu bod nhw’n parhau i oddef isadeiledd trafnidiaeth gwaeth heb ddim rheswm, a bydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn parhau i frwydro yn erbyn yr anghyfiawnder yma.”