Mae Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, wedi ymateb yn chwyrn i’r Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan, yn dilyn ymddiswyddiad yr Ysgrifennydd Crtref Suella Braverman.
Mae hi wedi ymddiswyddo yn dilyn “camgymeriad gonest” ynghylch y defnydd o dechnoleg bersonol ar gyfer busnes y llywodraeth.
Yn ei llythyr yn ymddiswyddo, mae’n dweud ei bod hi wedi anfon e-bost ynghylch dogfen bolisi ar fewnfudo o gyfeiriad personol at gydweithwyr ac, wrth wneud hynny, ei bod hi wedi torri’r cod gweinidogol.
Mae’r polisi, sy’n cynnwys anfon ffoaduriaid o’r Deyrnas Unedig i Rwanda, wedi cael ei feirniadu’n helaeth.
Mae Suella Braverman yn mynnu iddi roi gwybod “yn gyflym iawn” am y digwyddiad, ond mai’r “peth iawn” oedd iddi gynnig ei hymddiswyddiad.
Wrth ymhelaethu ar yr hinsawdd wleidyddol bresennol, mae’n dweud bod ganddi “bryderon am gyfeiriad y llywodraeth” a “phryderon difrifol” am ymrwymiad y llywodraeth i addewidion yn eu maniffesto.
Y disgwyl yw mai Grant Shapps fydd yn cael ei benodi’n Ysgrifennydd Cartref yn ei lle.
Ymateb
Ymhlith y gwleidyddion cyntaf i ymateb i ymddiswyddiad Suella Braverman roedd Liz Saville Roberts.
“Dim ond ddoe, roedd @SuellaBraverman yn rhefru yn y Siambr am ‘glymblaid o anhrefn’,” meddai ar Twitter.
“Mae sut fedrith unrhyw Aelod Seneddol Ceidwadol Cymreig gyfiawnhau’r llywodraeth hollol ddiffaith hon y tu hwnt i ddirnadaeth.”
Mae Chris Bryant, Aelod Seneddol Llafur y Rhondda, hefyd wedi ymateb gan ddweud ei fod yn “ategu” cynnwys llythyr ymddiswyddo Suella Braverman.
Mae’n cyfeirio’n benodol at y paragraff sy’n dweud bod ganddi “bryderon am gyfeiriad y llywodraeth”.
“Nid yn unig mae gennym addewidion i’n pleidleiswyr sydd wedi’u torri, ond fe fu gennyf bryderon am ymrwymiad y llywodraeth hon i anrhydeddu ymrwymiadau maniffesto,” meddai.