Mi wnes i ffeindio fy hun yn cwyno am bris mynediad i gêm tros y penwythnos.

Mi ges i syrpreis pan ofynnodd un o swyddogion y tîm cartref am 25% yn fwy nag oeddwn i’n ddisgwyl talu.

Ond i fod yn deg, efallai na ddylwn i fod wedi dangos fy mod yn flin am orfod talu £4 yn lle £3. Mae pethau’n ddrwg, ond dydyn nhw ddim mor ddrwg â hynny.