Mae Golwg wedi codi’r wal dalu ar golofn Dylan Iorwerth yn y cylchgrawn, i bawb gael blas ar yr arlwy…
Y peryg mawr, ynghanol helyntion gwleidyddol gwallgo’r funud, ydi y bydd y rhan fwya’ o bawb arall yn rhoi’r gorau i feddwl.
Y bydd Llafur a’i chefnogwyr, er enghraifft, yn eistedd yn ôl i aros i’r Blaid Geidwadol ddiflannu i fyny ei phen-ôl ei hun ac yn twyllo eu hunain fod popeth yn ôl yn iawn.
Mi fydd Llafur, wrth gwrs, yn gorfod delio â chwalfa economaidd a, fwy na thebyg, yn gorfod ailafael yn y dasg o fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus. Ond mi fydd angen mwy na hynny.
Yn achos y Gwasanaeth Iechyd, er enghraifft, mae peryg y bydd pethau wedi mynd yn rhy bell ar gyfer ychydig foddion; mi fydd angen llawdriniaeth fawr i achub yr egwyddorion – llawdriniaeth ar rannau eraill o’r corff gwleidyddol a chymdeithasol hefyd.
Nid y llanast rhyfeddol sydd wedi ei wneud gan y Trussorlys ydi’r broblem; symptom ydi hynny, mewn gwirionedd, o wendidau llawer dyfnach sydd wedi tra-arglwyddiaethu tros Lywodraeth y Deyrnas Unedig ers mwy na degawd.
Ynghylch y problemau hynny, dydi Llafur ddim yn gwneud sŵn gwahanol iawn i’r Ceidwadwyr. O ran Brexit a natur cyfansoddiad gwledydd Prydain, maen nhw’n canu o’r un llyfr, a hwnnw’n llawn o ganeuon gwag.
Oherwydd rhwygiadau diwylliannol Lloegr y daeth hi’n bosib i’r Blaid Geidwadol ddewis Liz Truss; oddi mewn i Dorïaeth, mae jingo-istiaeth Frexitaidd wedi mynd ynghlwm wrth safbwyntiau economaidd ffwndamentalaidd.
Ymhlith etholwyr dros Glawdd Offa, mae’n ymddangos bod yr hen ffiniau gwleidyddol – yn ymwneud â chyfiawnder cymdeithasol a phwysigrwydd gwasanaethau – wedi cael eu cymylu neu eu chwalu’n llwyr gan wrthdaro tros hunaniaeth Lloegr (aka Prydain Fawr).
Mae’r ystyriaethau hynny bellach yn ei gwneud hi bron yn amhosib i’r Ceidwadwyr grynhoi y tu cefn i un arweinydd neu hyd yn oed o blaid eu hen gredoau economaidd. (Rhyw fath o eithriad rhyfedd oedd cyfnod Boris Johson efo ffydd dall yn ei allu i ennill etholiadau’n llyncu popeth arall).
Ond, os bydd Llafur yn dod i rym, mi fyddan nhw’n dod ar draws yr un math o anniddigrwydd gwleidyddol, sy’n golygu y gall pobol fod rhywfaint i’r chwith ar faterion economaidd ond ymhell i’r dde’n ddiwylliannol.
Os ydi’r mymryn dadansoddiad yna’n agos o gwbl at y gwir, mae’n golygu na fydd y trafferthion sylfaenol yn diflannu trwy newid llywodraeth. Mae’r hen straeon oedd yn cadw gwahanol garfannau a gwahanol rannau o’r Deyrnas Unedig ynghyd wedi cael eu tanseilio.
Mi fydd yna gyfrifoldeb mawr ar y Blaid Lafur yng Nghymru yn hynny o beth oherwydd y dylai hi, ar ôl chwarter canrif o fod yn Llywodraeth yng Nghaerdydd, fod yn gallu gweld yn well na’i hi chyd-Lafurwyr yn Lloegr bod yna wendidau dwfn.
Symptom ydi Liz Truss a’i thebyg; mi fydd angen gwneud mwy na delio â hi.