Wir i chi, dwi wedi drysu’n lân.

Mae hinsawdd ein byd yn newid yn gynt nag erioed o’r blaen. Mae newidiadau a ddigwyddodd dros gyfnodau o filoedd o flynyddoedd gynt, bellach yn digwydd o fewn degawdau. Wrth i’r byd gynhesu a digwyddiadau tywydd eithafol gynyddu, mae gwledydd, busnesau, cymunedau ac unigolion yn wynebu chwalfa.

Os nad yw’r ddynol ryw yn gweithredu ar frys i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd, mae’r dyfodol yn edrych yn dywyll.