Ai arwydd o henaint ydy gwylltio wrth glywed Cymraeg sâl ar y radio?

Ychydig iawn ohonan ni fedar honni fod ganddo ni Gymraeg berffaith ond, myn cebyst i, mae angen rhoi’r gorau i ddefnyddio’r erchyll ‘model rôl’.

Mae’r duedd i drosi yn haearnaidd a llythrennol o’r Iaith Fain wedi hen wreiddio, yn anffodus.

Ond yn lle ‘model rôl’, beth sydd o’i le efo dweud ‘esiampl ardderchog’?

Er enghraifft: ‘Mae Liz Truss yn esiampl ardderchog i ferched sydd eisiau gwneud eu marc yn y byd gwleidyddol’.