6 Medi 2022

Wee-hei! Rwy’n Ganghellor!

Roeddwn ar fin bwyta fy Rice Krispies i frecwast, pan ddaeth galwad ffôn annisgwyl.

‘Fe hoffai’r Prif Weinidog eich gweld chi,’ meddai rhyw ddynes posh pen arall y lein.

Pwy?’ atebais.

‘Y Prif Weinidog’.

‘Ie – ond pwy sy’n Brif Weinidog?’ gofynnais.

Umm…wel… Liz Truss...’