Mae Golwg wedi codi’r wal dalu ar golofn Jason Morgan, i bawb gael blas o arlwy’r cylchgrawn…
Lord of the Rings ydi un o fy obsesiynau i ers blynyddoedd, i’r graddau fy mod i nid yn unig wedi darllen y llyfrau, ynghyd â The Silmarillion [casgliad o straeon gan JRR Tolkien], ond llawer o’r testunau ategol am y byd greodd Tolkien. Feiddia’ i ddweud dwi’n gwybod fy stwff am hyn. Felly mae’n ddealladwy imi fod yn hynod gyffrous am y gyfres Lord of the Rings ar Amazon, y rhyddhawyd pennod olaf y gyfres gyntaf ohoni ddydd Gwener.
Na, wnaeth hi ddim argyhoeddi fel y gyfres orau erioed, er y darluniau eithriadol o brydferth o Middle-earth, a’r gwerth cynhyrchu arbennig. Gweithiodd rhai pethau, a rhai pethau llai felly. A dyna dwi’n meddwl ydi’r farn gyffredinol arni – digon hawdd i’w gwylio, jyst abowt digon i’w gwneud yn gyfres dda, heb fod yn anhygoel. I fod yn deg, mae’r cynhyrchwyr eu hunain wedi cydnabod hyn oll hefyd, sy’n argoeli’n dda i’r ail gyfres. Er, â honno ddwy flynedd i ffwrdd, efallai y bydd hi’n anodd iawn cynnal y diddordeb ynddi.
Un peth, fodd bynnag, y tu hwnt i reolaeth y sioe ei hun a’i sbwyliodd imi oedd y sylw gafwyd. Hyd yn oed cyn iddi gael ei darlledu gyntaf, roedd yna gryn dipyn o bobl wedi penderfynu eu bod am ei chasáu, ac na fyddai unrhyw beth yn newid eu meddyliau. Rhai achos mai Amazon oedd yn ei chynhyrchu. Rhai achos ei bod hi’n sioe woke, delwedd a ddeilliodd yn bennaf o’r ffaith bod ambell gymeriad du a bod Galadriel (a bortreadir gan y Gymraes Morfydd Clarke) yn medru ymladd. Mae eisio gras, does? Wrth gwrs, doedd yna ddim byd woke o gwbl am y sioe, ac roedd o leiaf yn braf gweld rhai o’r sawl honnodd hynny’n gynyddol stryffaglu i gyfiawnhau eu cyhuddiadau cychwynnol.
Nid ‘puryddion’ Tolkien (pobl na fyddent am i unrhyw elfen o’r stori newid) na gwybodusion ei waith oedd y beirniaid mwyaf, ond pobl ar-lein sy’n gweld mai eu gwaith yn y byd yw ymladd diwylliant woke a gosod y meddylfryd hwnnw fel y gelyn mawr. Roedd adran sylwadau unrhyw beth yn trafod y sioe, o Twitter i YouTube, yn cael eu cymryd drosodd ganddynt, a phob elfen yn destun beirniadaeth.
Arweiniodd hyn at gas-wylio mawr – hynny yw, dilyn rhywbeth er mwyn ei gasáu, a digonedd o falais at unrhyw un feiddiai dweud eu bod wedi mwynhau. Mae hynny’n ddigalon ac yn drist, ond yn nodweddiadol o’r hyn mae’r rhyngrwyd wedi morffio iddo. Beth sydd mor anodd gan rai i adael i bobl hoffi’r hyn y maen nhw’n ei hoffi, heb besgi ar gyffur casáu a bychanu’r sawl sy’n mwynhau, a gadael fod?
“What can men do against such reckless hate?” ysgrifennodd Tolkien. Yn yr achos hwn, dwi’n gobeithio, dysgu, a chreu ail gyfres fydd yn wirioneddol ddisgleirio.