Mae Golwg wedi codi’r wal dalu ar golofn Natalie Jones, i bawb gael blas ar arlwy’r cylchgrawn…
Mae ymchwil yn dangos bod llawer o grwpiau lleiafrifol ddim yn gweld eu hunain na’u straeon yn eu hamgueddfeydd lleol. Yn aml, nid ydynt yn ystyried amgueddfeydd fel llefydd y gallan nhw fynd a chael eu hadnabod a’u cynrychioli. Felly, ar hyn o bryd mae project yn cael ei gynnal gydag amgueddfeydd ledled y wlad sy’n anelu at wella’r sefyllfa. Y syniad yw dod â’r amgueddfa leol a phobl amrywiol ynghyd. Gyda’r project hwn, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru ac Art Fund UK, fe fydd cyfle i bobol gynhyrchu ymateb creadigol i rywbeth o fewn yr amgueddfa sy’n eu hysbrydoli.
Mae Amgueddfa ac Oriel yn Ninbych y Pysgod yn un o’r cyfranwyr i’r prosiect hwn. Hon yw amgueddfa annibynnol hynaf Cymru. Wedi’i sefydlu ym 1878, mae gan yr Amgueddfa gasgliad o arteffactau daearegol, biolegol, archeolegol a morol lleol.
Ar ôl marwolaeth y Parchedig Gilbert N Smith, penderfynodd grŵp o bwysigion o’r ardal i ffeindio ffordd o gadw ac arddangos casgliad arbennig o sbesimenau daearegol roedd e wedi hela yn ystod ei fywyd. Daeth y grŵp yn fwrdd ymddiriedolwyr a oedd yn rhagweld creu gofod a fyddai o fudd i’r cyhoedd. Dechreuon nhw gasglu mwy o eitemau o ddiddordeb, gyda rheol syml bod yn rhaid i bob eitem gael ei gysylltu â’r ardal leol mewn rhyw ffordd.
Ers y dechrau, mae’r amgueddfa wedi cael ei rhedeg fel elusen ac yn dibynnu ar ddiddordeb ymwelwyr i oroesi. Gallech gael maddeuant am feddwl bod amgueddfa sy’n canolbwyntio ar hanes lleol yn unig ddim yn amrywiol iawn, ond byddech chi’n anghywir!
Un o’r artistiaid enwog sy’n cael sylw yw Augustus John. Fe gafodd o ei eni yn Ninbych y Pysgod. Mae ei baentiad ‘The Two Jamaican Girls’ o 1937 wedi dod yn adnabyddus iawn. Ceir yn y llun enghraifft o ffrog gotwm a wnaed yng Nghymru i orchuddio caethweision yn y trefedigaethau. Hefyd, plisg wyau pengwin o Dde Affrica, gloÿnnod byw o Orllewin Affrica a darnau arian a ddefnyddiwyd cannoedd o flynyddoedd yn ôl mewn trefedigaethau Prydeinig. Cewch weld un o’r cadeiriau olwyn gyntaf sydd mor posh â’r stori tu ôl iddi.
Hefyd mae yna waith gan arlunydd arall bendigedig, Nina Hamnett. Fe gafodd hi ei galw yn ‘Frenhines Bohemaidd’ oherwydd ei bywyd lliwgar a’r ffaith ei bod hi’n agored am fod yn ddeurywiol yn y 1900au cynnar. Yn anffodus, roedd alcoholiaeth yn bla ar ei bywyd, gan achosi ei marwolaeth yn y pen draw. Bu farw yn 66 oed ym 1956 ar ôl cwympo allan o ffenestr ei fflat a syrthio ar y ffens ddeugain troedfedd islaw.
Mae pobl o’n cymunedau lleiafrifol yn cael eu hannog i fanteisio ar deithiau am ddim a gynhelir y mis nesaf. Gofynnir i fynychwyr ddewis rhywbeth sy’n ‘siarad â nhw’ neu’n rhoi teimlad o gysylltiad iddynt, ac ysgrifennu darn neu gerdd fer amdano.
Bydd yr awdures Manon Steffan Ros yn dewis ei hoff ddarnau i’w cynnwys mewn llyfr. Bydd pob cyfraniad yn cael ei ddathlu am chwech ar nos Fawrth 29 Tachwedd yn Ysgol Greenhill, Dinbych-y-pysgod. Curaduron yr Amgueddfa fydd yn cynnal y noson a bydd araith ysgogol gan y cyn-Aelod o’r Senedd, Leanne Wood. Bydd perfformiadau hefyd gan y Frenhines Niche a.k.a. Nelly Adam a N’famady Koyote. Mae N’famady yn chwarae’r seiloffon pren traddodiadol sy’n gysegredig i ddiwylliant Gorllewin Affrica a’i dreftadaeth deuluol. Mae’n gerddor Cymreig ac mae ei steil yn cael ei ddylanwadu gan Mandingue Affricanaidd a jazz gorllewin Ewrop, pop, indi a ffync.