Roedd gen i brint o’r llun ar wal fy ystafell yn y coleg – poster mawr mewn ffrâm clip, wedi ei brynu yn y cyfnod o bontio rhwng bod yn blentyn a bod yn oedolyn. Y blodau’r haul a gymerodd le’r posteri bandiau a adewais yn nhŷ Mam a Dad. Fe wyliodd y blagura bythol felyn drosta i wrth i minnau gyrraedd blodau fy nyddiau.