Soniais ychydig wythnosau yn ôl fy mod wedi bod yn mwynhau Welcome to Wrecsam, cyfres ddogfen yn dilyn deunaw mis cyntaf yr actorion Ryan Reynolds a Rob McElhenney fel perchnogion Clwb Pêl-droed Wrecsam. Dw i wedi ei gorffen hi bellach ac ar wahân i ryw bennod neu ddwy araf ac undonog tua’r canol, mae hi werth ei gwylio os cewch chi’r cyfle.