Mae Pencampwyr Steddfod Tregaron eleni wedi canu gyda Bryn Terfel, Kiri te Kanawa a Barry Manilow…

Pan gafodd ei ffurfio 30 mlynedd yn ôl, Côr Caerdydd oedd yr unig gôr Cymraeg yn y brifddinas.

Erbyn hyn, mae llond llaw o gorau cyfrwng Cymraeg yng Nghaerdydd ac mae’r gystadleuaeth yn golygu bod rhaid i’r côr barhau i gynnal a chodi’i safon.