Y llyfr dw i ar ganol ei ddarllen

Dw i wrthi’n darllen ac yn cael blas ar Independent Nation – Should Wales leave the UK? gan Will Hayward. Er bod fy marn i’n bendant o ran meddwl y dylai Cymru fod yn annibynnol, mae’n eithriadol o bwysig bod trafodaeth lawn ac ystyriol ar y mater ac mae’r gyfrol yma yn gyfraniad pwysig.

Y llyfr a newidiodd fy mywyd