Yn perfformio ers hanner canrif a mwy, mae’r canwr-gyfansoddwr adnabyddus yn trafod rhai o brofiadau dwys bywyd ar ei albwm newydd…

Er bod yna ganeuon gorfoleddus am atgofion plentyndod ar albwm newydd Delwyn Siôn, mae yna hefyd draciau sy’n trafod ochr dywyll bywyd yng nghymoedd glofaol y de yn y 1960au.