Dylunio maes yr Eisteddfod yw un o swyddi mwyaf heriol artist sydd wedi gweithio ar gyfresi a ffilmiau poblogaidd fel The Crown, Prosiect Pum Mil a Dal y Mellt.

Eisteddfod Tregaron oedd y seithfed tro i Gwyn Eiddior ddylunio’r maes, ac er ei fod wrth ei fodd â’r gwaith, mae yn waith anodd a blinedig, meddai.