Mae’r actores 28 oed o Bort Talbot newydd orffen gwneud ffilm i Netflix.

Yn fwyaf adnabyddus am ei chyfraniad i’r podlediad Mel Mal a Jal, mae hi hefyd yn rhedeg ysgolion dawnsio gyda’i gwraig, Ebony…

Pryd wnaethoch chi gychwyn actio?

Ges i fy rhan gyntaf pan oeddwn i yn ddwy oed, ar hysbyseb car Renault ar y teledu.

Wnaeth Mam fynd â fi i’r auditions yn Abertawe, ac roedd rhaid mynd i Lundain wedyn ar gyfer y shoot.