Mae Cydlynydd Dysgu Cymraeg newydd y Cyngor Celfyddydau wedi chwarae ei siâr o ddihirod S4C ers dechrau ei yrfa.

Tipyn o Stad i Rownd a Rownd, mae Rhodri Trefor wedi arfer cael ei gastio fel y “dyn cas”.

Ond dros y blynyddoedd, mae’r actor o Langefni wedi chwarae cymeriadau cleniach ac ymddangos ar lwyfannau’r wlad hefyd.