Mae Golwg wedi codi’r wal dalu ar golofn Izzy Rabey, i bawb gael blas o gynnwys y cylchgrawn…
Yn y flwyddyn ddiwethaf rwyf wedi gorfod dod mas eto mewn dwy ffordd. Ar ôl meddwl ers fy arddegau fy mod i’n Bi, sylweddolais yn fy ugeiniau fy mod i’n hoyw. A tua phythefnos yn ôl penderfynais newid fy rhagenwau o hi/ei i hi/ei/nhw/eu. Fel rhywun oedd yn meddwl fy mod i’n sicr iawn yn fy rhywioldeb a rhyw, mae’r ddau ‘ddigwyddiad’ yma wedi bod yn sioc i fi mwy nag unrhyw un arall! Pryd wnes i ddod allan yn fy arddegau, fe wnes i frwydro yn arw i gael fy nghymryd o ddifri, yn sicr mai dyma fyddai ‘y rhywioldeb’ am weddill fy mywyd. Ond fel mae bywyd wedi dysgu i mi, yr unig beth sy’n sicr i ni yw newid. Rydw i wedi teimlo’r rhyddid o fewn y flwyddyn ddiwethaf i wirioneddol weithio allan pa eiriau sydd nawr yn mynd i weithio i fynegi’r cwlwm blêr a rhydd ag ydy fy hunaniaeth anhrefnus fflwroleuol a gwrthgyferbyniol.
Pam ‘nhw’ felly? Pam ‘nhw’ os ydw i wedi bod yn ddigon hapus i gael fy ngalw’n ‘hi’ o’r blaen? Wel, rydw i wastad wedi teimlo yn androjynaidd iawn yn fewnol. Ers roeddwn i’n blentyn. Roeddwn i’n hoffi dwyn dillad fy mrawd a ‘throi mewn i fachgen’ yn blentyn, ac ar yr un pryd ei berswadio fo i wisgo lan fel merch… yn fy mhen ifanc mi roedd yn sefyllfa llai ‘od’ os oedd y ddau ohonom ni’n gwisgo dillad ein gilydd.
Roeddwn i’n mynd i ddisgos Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig mewn drag yn fy arddegau hefyd… yn copïo mwstash Johnny Depp a gwisgo mewn ffordd byse’n fflatio fy mrest.
Ond eto, yn ystod fy arddegau a nawr rydw i wastad wedi mwynhau colur a ffrogiau a stwff benywaidd hefyd, felly doeddwn i ddim byth wir yn cwestiynu fy rhyw fel plentyn.
Yn ystod fy mherthynas hoyw hir dymor cyntaf, rwy’n cofio dweud wrth fy nghariad ar y pryd fy mod i’n teimlo’n androjynaidd iawn tu fewn. Rwy’n cofio hi’n ymateb gyda bach o syndod, oherwydd roeddwn i’n cyflwyno fy hun fewn ffordd ‘benywaidd’ draddodiadol y rhan fwyaf o’r amser. Roeddwn i’n teimlo eithaf embaras am hyn. Felly trwy fy ugeiniau, wnes i ddim meddwl rhyw lawer am y peth.
Yn fy mherthynas diwethaf, fe wnaeth hi un diwrnod ddweud wrtha i ei bod hi’n hoffi’r ffaith fy mod i’n gwisgo mewn ffordd benywaidd, ond fy mod i gydag egni androjynaidd. Roedd o’n foment ble teimlais i fel bod rhywun yn wirioneddol wedi gweld pwy oeddwn i fel person.
Agorodd hwn lwybr i mi ddechrau siarad am hyn yn agored am y tro cyntaf yn fy mywyd. Mae’n rhywbeth bydda i wastad yn ddiolchgar iddi ambwyti. Pryd welais i bobl yn defnyddio’r rhagenwau hi/nhw, roeddwn i’n dawel yn genfigennus am ryw reswm nad oeddwn i yn ei ddeall ar y pryd, ond yn benderfynol fy mod i’n iawn ac yn hapus i ddal ati i symud trwy’r byd fel menyw hi/ei!
Ond serch hynny, o fewn y ddwy flynedd ddiwethaf, mae ein cysyniadau o beth yw ‘rhyw’ a hunaniaeth anneuaidd wedi cael ei fynegi mewn ffordd llawer fwy eang nag jest ‘person sy’n edrych/teimlo fel hanner dyn a hanner menyw’. Mae hyn wedi bod yn ysbrydoledig i fi. I weld pobl sy’n dewis mynegi eu ‘rhyw’ mewn ffordd byse’n gallu cael ei ddiffinio yn draddodiadol mewn un ffordd, ond yna yn defnyddio rhagenwau sy’n ehangu beth mae hynny’n meddwl ac yn gallu bod; i fi, mae hyn yn rhyddhau bob un ohonom ni o gyfyngiadau rolau traddodiadol rhyw.
I fi, mae defnyddio’r rhagenwau hi/nhw yn meddwl rhyddid a’r rhyddhad o beidio cael fy nghanfod fel dim ond un peth, un fath o syniad o beth yw ‘menyw’, a beth yw ‘benywaidd’. Mae’n anrhydeddu’r plentyn oedd yn teimlo’r rhyddid i fod yn dyrfa o bethau a mynegiadau. Y plentyn a’r oedolyn sydd wastad wedi bodoli. Mae’n ehangiad ond hefyd yn cydnabod a pharchu teimlad cyson mewnol. Dydw i ddim eisiau newid unrhywbeth amdanaf fy hun yn gorfforol. Dydw i ddim yn mynd i fod yn grac neu’n drist os yw pobl yn galw fi’n fenyw neu’n ‘hi’. Mae newid fy rhagenwau yn anrhydeddu’r ymrwymiad i fy hun i fod y fersiwn mwyaf rhydd o fy hun rwy’n gallu bod. Ym mhob elfen o fy mywyd. Bydded i ni oll fod y fersiynau mwyaf rhydd ac eang o’n hunain yn ein bywydau.