Naw o’r gloch ar nos Sul, golyga hynny un peth, S4C yn gwneud eu rhan i ymrafael â’r argyfwng ynni byd eang trwy droi’r goleuadau i gyd i ffwrdd ar gyfer ei drama ddiweddaraf. Ar bapur, dyma i ni ddrama drosedd dywyll arall, fel pe bai dim digon o’r rheiny ar S4C. Ond mae Dal y Mellt yn wahanol, yn hollol wahanol â dweud y gwir.