Mae Golwg wedi codi’r wal dalu ar golofn Huw Onllwyn, i bawb gael blas o arlwy’r cylchgrawn…

Ymhlith casgliad enfawr Rwsia o arfau niwclear mae yna nifer o fomiau arbennig sy’n creu swm cymharol fach o alldafliadau niwclear (nuclear fallout). Fe’u gelwir gan y gwyddonwyr a’u datblygwyd yn fomiau ‘environmentally conscious‘. Maent yn lleihau’r risg o greu alldafliadau peryglus fyddai’n gallu niweidio lluoedd arfog Rwsia yn ogystal â’u gelynion.

Defnyddiwyd un yn 1979 er mwyn cael gwared ar fethan mewn pwll glo yn Yunokommunarsk, yn y Donbas. Roedd ganddo 2% o bŵer bom Hiroshima. Rhoddwyd diwrnod i ffwrdd o’r gwaith i’r glowyr, cyn iddynt ddychwelyd i’r pwll, diwrnod ar ôl y ffrwydrad.

Mae’n bosib mai dyma’r math o fom y bydd Vladimir Putin am ei ddefnyddio yn gyntaf, wrth droi’r rhyfel yn Wcráin yn un niwclear. Gall gynnig iddo drothwy is i’w groesi, wrth ddwysáu’r rhyfel.

Wrth gwrs, fe all Putin ddefnyddio amrywiaeth o fomiau, yn hytrach na’r rhai  ‘environmentally conscious‘. Yn y pendraw, mae ganddo ddewis o 5,977 o arfau niwclear.

Mae ganddo nifer o opsiynau:

  • ffrwydro un ohonynt uwch Môr y Baltig fel rhybudd. Ond gellir cwestiynu a fyddai hynny’n effeithiol. Gallai awgrymu ei fod yn ofni eu defnyddio ‘go-iawn’, ar dir Wcráin. Ac, o’r herwydd, gallai gwledydd NATO wrthod ei ystyried fel bygythiad go-iawn;
  • eu defnyddio er mwyn ceisio lladd Volodymyr Zelensky a’i brif gynghorwyr yn eu byncer tanddaearol;
  • ymosod ar darged milwrol yn Wcráin, megis maes awyr milwrol, neu depo arfau;
  • dinistrio dinas er mwyn lladd miloedd ar filoedd o bobl a chreu digon o fraw ymhlith y boblogaeth er mwyn gorfodi Wcrain i ildio (sef y dacteg a ddefnyddiwyd gan America yng nghyswllt Siapan, yn Hiroshima a Nagasaki).

 

Wedi’r cyfan, mae Putin eisoes wedi ymosod ar ddinasoedd, bomio ysbytai, lladd pobl, gan gynnwys plant bach – ac wedi goddef ei filwyr yn ysbeilio a threisio. Iddo ef, gallai ddefnyddio arf niwclear gynrychioli’r cam rhesymegol nesaf.

Gall rhagweld y byddai yn wynebu ymateb ffyrnig gwleidyddol a diplomatig am gyfnod – cyn i’r llwch setlo ar ôl rhai misoedd.

Ac ar hyn o bryd, mae gohebwyr ar gyfryngau Rwsia’n ei annog, yn ddyddiol, i ddefnyddio’i arfau niwclear. [Cynigiodd un y byddai eu defnyddio i ymosod ar Brydain ar ddiwrnod angladd Elizabeth yn ergyd gwych yn ein herbyn]. Mae hyn, yn ei dro, yn helpu paratoi trigolion Rwsia i dderbyn y byddai eu lansio yn gam rhesymol.

Yn wir, mae nifer o arbenigwr o’r farn fod y tebygolrwydd o ddefnyddio arfau niwclear yn uwch heddiw nag adeg creisis Ciwba yn 1962 (ond fod y tebygolrwydd o gychwyn rhyfel niwclear byd-eang yn is).

Yn y cyfamser, ni fydd America na gwledydd NATO am ildio i flacmêl niwclear Putin. Gallai ildio annog gwledydd eraill i ddefnyddio’u harfau niwclear er mwyn bygwth eu cymdogion. Heb sôn am annog Putin i fynd ymhellach.

Felly beth yw’r opsiynau i NATO?

Mae’n debyg mai’r ceffyl blaen o ran y dewisiadau fyddai ymateb cryf iawn, gan ddefnyddio arfau confensiynol. I ddinistrio byddin Rwsia yn Wcráin; i foddi llongau Rwsia yn y Baltig – ac i ymosod ar ambell i darged milwrol o fewn Rwsia, megis y safleoedd o le lansiwyd yr arfau niwclear.

Yn ychwanegol at hyn, gellir defnyddio dulliau newydd er mwyn ymladd, megis ymosodiadau cyber er mwyn difetha systemau electronig milwrol Rwsia – ynghyd â’r systemau sy’n rheoli isadeiledd cyffredinol y wlad (gan gynnwys y systemau sy’n rheoli dosbarthu ynni).

Mae’n annhebyg y byddai Biden a NATO am ddewis defnyddio arfau niwclear. Cynhaliodd  America gyfres o war-games yn 2019, er mwyn ystyried eu lansio petai Rwsia’n defnyddio arfau niwclear yn Wcráin. Meddai un oedd wedi cymryd rhan: ‘There were no happy outcomes’.

Yn y cyfamser, rhaid gobeithio fod America, gwledydd y gorllewin – a NATO – yn defnyddio dulliau diplomataidd er mwyn egluro natur yr ymateb tebygol i Putin. Rhaid gobeithio, hefyd, fod gwledydd megis China ac India yn ei gwneud yn glir y byddent yn ymuno â’r gorllewin er mwyn gosod sancsiynau eang ar economi Rwsia. Dyna’r math o deterrent sydd ei angen arnom.

Ond petai Putin yn gofyn i’w filwyr baratoi arfau niwclear ar gyfer eu lansio – mae’r risg o amryfusedd yn cynyddu – a gellir lansio’r arfau drwy gamgymeriad angheuol.

Mae’r byd mewn sefyllfa beryglus iawn.

Yn sicr, mae angen osgoi’r hyn a elwir yn escalation vortex. Sefyllfa sy’n anodd ei rheoli – ac sydd, ar ei waethaf (yn ôl yr US Air Force Global Strike Command) yn gallu arwain at: the absolute highest levels of permanent societal destruction.

A all un dyn ddinistrio’r byd?