Yn y grŵp rhagbrofol ar gyfer Euro 2024, bydd Cymru yn wynebu Croatia, Armenia, Twrci a Latfia. Byse hi wedi gallu bod yn lot gwaeth a fydd y cefnogwyr yn falch iawn o gael osgoi Gwlad Belg ac Iwerddon. Bydd hi’n hwyl i’r Wal Goch gael teithio i wledydd sy’n anghyfarwydd i’r rhan fwyaf.

Rydyn ni wedi bod i Groatia yn ddiweddar. Colli 2-1 wnaethom ni o dan haul chwilboeth Osijek yn 2019. Ond dim ond ychydig o’r cefnogwyr fydd wedi ymweld â’r tair gwlad arall er mwyn gwylio Cymru.