Er mor wahanol ydyn nhw o ran gwleidyddiaeth, mae’n syndod pa mor debyg ydi ffawd y Blaid Geidwadol ar hyn o bryd â hynt Llafur dan Jeremy Corbyn.

Yn y ddau achos, mae yna arweinydd wedi dod o un ochr i’w plaid, heb gefnogaeth mwyafrif yr aelodau seneddol ond trwy bleidleisiau carfan gref o aelodau newydd a ddaeth i mewn i’r blaid o’r tu allan.