Beth ydy home-making yn Gymraeg? Mae ‘cadw tŷ’ yn gyfaill agos iddo – ond a oes yna air am y broses o greu cartre o’r newydd? O drawsnewid gofod sydd llawn cerrig-ateb o fywyd rhywun arall: o benderfyniadau paentio beiddgar ac olion bywyd bob dydd y cyn-berchnogion. Swatio, nythu – mae’r rhain yn dod wedyn. Meddwl dwi am y broses o drwsio a thendio, darganfod a datrys problemau, o addurno, a sgwrio tystiolaeth o fywyd dieithriaid allan o gorneli’r stafell molchi?