Mae yna stori newyddion fach ryfedd wedi bod yn ymddangos ar amrywiol wefannau dros y dyddiau diwethaf, yn sôn am fam o Fflorida aeth at yr heddlu i ddweud bod criw o bobl drawsryweddol wedi cipio ei mab, gyda’r bwriad o dynnu ei organau mewnol, a’u gwerthu.

Roedd y mab, sy’n 20 oed, wedi ysgrifennu nodyn yn dweud ei fod am adael y cartref, ac wedi mynd â phethau hanfodol ei fywyd gydag e.