Mi ysgrifennais i yma rai wythnosau’n ôl fy mod i ddim yn or-hoff o’r haf. Fel mae’n digwydd mae hynny hefyd yn wir am yr hydref. Taswn i’n cael fy ffordd, mi fydda’r gaeaf a’r haf jyst yn newid ar un diwrnod penodol yn hytrach na bod y ddau’n sleifio at ei gilydd, fel ein bod ni’n dallt yn union lle’r ydan ni.