Tydi cynghorau sir Cymru ddim yn adnabyddus am gorddi’r dyfroedd i’r fath raddau nes eu bod nhw yn llwyddo i gael sylw ar lefel Brydeinig.

Do, fe gorddodd Cyngor Gwynedd y dyfroedd mewn steil nôl yn 2012 gyda’r bwriad gwallgo’ i gau 29 o ysgolion cynradd y sir.

Rhyfedd meddwl bod deng mlynedd wedi hedfan heibio ers cyflwyno’r cynllun wnaeth arwain at Arweinydd y cyngor, a Dafydd Iwan, yn colli eu seddi.