Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno cynigion y maen nhw’n dweud fydd yn gwella cyfranogiad pleidleiswyr mewn etholiadau.

Yn ôl Cwnsler Cyffredinol Cymru, Mick Antoniw, mae’r cynigion wedi eu cynllunio i gael gwared ar rwystrau i bleidleisio.

Fe wnaeth llai na hanner y cyhoedd, 46.6%, fwrw pleidlais yn etholiad y Senedd y llynedd, ac roedd y nifer a bleidleisiodd yn etholiadau’r cyngor sir eleni yn amrywio rhwng 31.33% yn Nhorfaen a 48.6% yng Ngheredigion.