Roedd ennill y wobr Ffilm Nodwedd/Deledu orau yn noson BAFTA Cymru yn “brofiad swreal” i actor y ffilm Grav.

Cafodd seremoni Gwobrau BAFTA Cymru ei chynnal nos Sul yn Neuadd Dewi Sant yng Nghaerdydd, a’r llywydd oedd Alex Jones. Mae’r gwobrau yn dathlu doniau yn y byd ffilm a theledu yng Nghymru.

Addasiad teledu o sioe lwyfan yn seiliedig ar fywyd yr arwr rygbi Ray Gravell yw Grav, a gafodd ei chreu’n wreiddiol