Mae cadeirydd newydd Cymdeithas yr Iaith yn dweud y bydd yn tynnu ar ei ddegawdau o brofiad fel ymgyrchydd yn ei rôl newydd.

Cafodd Robat Idris ei ethol yng nghyfarfod cyffredinol blynyddol y Gymdeithas ddydd Sadwrn, ac mae’n olynu Mabli Siriol Jones.

Ar gael ei ethol yn Gadeirydd dywedodd ei fod am i Gymdeithas yr Iaith “gynnig gweledigaeth y gallwn ni i gyd weithio i’w gwireddu er mwyn creu gwell Cymru i’n pobol, a gwell dyfodol i’n plant”.