Dim ond nawr, beth amser wedi marwolaeth Elizabeth, y mae’r dadlau am y frenhiniaeth – a theitl Tywysog Cymru – yn codi stêm. Mae un o AoSau Plaid Cymru, Sioned Williams, wedi siarad yn blaen…

“Byddwn i’n dadlau bod gan bobol Cymru, drwy eu Senedd, hawl i leisio barn ynghylch creu rôl anetholedig i gynrychioli ein cenedl, yn enwedig rôl sy’n cael cyllid o’r pwrs cyhoeddus. Gan roi o’r neilltu hanes hir a phoenus y teitl – sy’n cael ei ddefnyddio i bwysleisio darostyngiad Cymru (yn ei araith yn y Senedd…fe alwodd y Brenin Gymru yn ‘land’ ond nid yn ‘nation’) – yr hyn oedd fwya’ amlwg ac anghydnaws oedd y gwrthdrawiad rhwng democratiaeth ifanc, fodern ac un o’r systemau mwyaf hynafol ac anacronistaidd.” (nation.cymru)

Ond, howld on, meddai Dafydd Glyn Jones wrth i gynghorwyr Gwynedd wrthwynebu teitl Tywysog Cymru a seremoni arall…

“Dyna Gynghorwyr Gwynedd wedi datgan yn groyw DIM ARWISGIAD ARALL, a dyma’r hen flog hwn wedi eu canmol. Ond ymlaen rŵan, ein cynrychiolwyr, at beth can mil pwysicach. Cyhoeddwch yr un mor bendant DIM ATOMFA ARALL. Gallaf ddychmygu Cymru annibynnol efo ‘Tywysog’ o Sais. Ond bydd annibyniaeth efo mwy o niwclear yn amhosibl.” (glynadda.wordpress.com)

Mae’r cyn-Aelod Cynulliad, Peter Black, wedi dangos bod Cymru hefyd yn rhan o’r stori am rym cudd y Brenin – ar ôl i Lywodraeth yr Alban ddatgelu eto ei fod wedi cael yr hawl i ymyrryd mewn deddfwriaeth yno oedd yn effeithio ar ei fuddiannau…

“Does gan yr un tirfeddiannwr arall yr hawl i ddefnyddio grym i warchod ei fuddiannau fel hyn. Mae’n digwydd ym mhob sefydliad deddfwriaethol arall, gan gynnwys San Steffan a Chymru, lle’r oedd angen i fy mesur preifat fy hun ynghylch Cartrefi mewn Parciau gael ei gyfeirio at Dywysog Cymru i gael ei gydsyniad, cyn y gallai gael ei basio. Man lleia’, fe ddylai’r seneddau hyn i gyd fod mor agored a thryloyw am y broses hon ag y mae Hollyrood ar hyn o bryd, ond y cwestiwn ehangach yw pam y dylai pennaeth anetholedig gwladwriaeth fynd dros ben cynrychiolwyr etholedig fel hyn? Mae’n hen bryd cael gwared ar rym cydsynio’r Goron.” (peterblack.blogspot.com)

Rhan arall o effaith y math yna o rym anetholedig, yn ôl John Dixon, ydi’r llanast gwleidyddol yn San Steffan ar hyn o bryd, efo llywodraeth sydd heb fandad i’w bolisïau sylfaenol …

“Nid gwall yng nghyfansoddiad y Deyrnas Unedig yw’r gallu i ddisodli llywodraeth gydag un hollol wahanol yn mynd i gyfeiriad gwleidyddol hollol wahanol, ond nodwedd ohoni. Mae yna coup cwbl gyfreithlon wedi bod; dyma sut y mae pethau i fod i weithio. Cael ei benodi gan y Brenin/Brenhines y mae’r Prif Weinidog, nid ei ethol gan y bobol ac, o’i benodi, mae’n rhydd i wneud beth bynnag bron y mae eisiau, ar yr unig amod fod digon o ASau taeog o blaid y newidiadau sydd angen deddfwriaeth…” (borthlas.blogspot.com)