Mae Dyfodol i’r Iaith yn galw am drosglwyddo cyllid ychwanegol i’r wefan newyddion hon yn dilyn y cyhoeddiad bod gwasanaeth newyddion Corgi Cymru yn dirwyn i ben.

Mewn datganiad, mae’r mudiad yn dweud eu bod nhw wedi anfon “neges frys” at Gyngor Llyfrau Cymru “yn eu hannog i drosglwyddo’r cyllid fydd ar gael bellach i golwg360”.

“Roedd Golwg yn arfer derbyn £200,000 y flwyddyn ar gyfer eu gwasanaeth newyddion annibynnol, ond trosglwyddwyd hanner hynny i Corgi Cymru eleni,” meddai’r datganiad.

“Mae’n syndod fod golwg360 wedi llwyddo i gynnal cystal gwasanaeth ar ôl colli hanner eu cyllid, ond ein gobaith bellach yw y gall y cwmni ddatblygu eu gwasanaeth ymhellach wrth gael y £100,000 ychwanegol yn ôl.”

‘Camu ymlaen yn hyderus i’r dyfodol’

“Nid trwy daenu’r cyllid yn denau dros ddwy wefan wahanol yn cyflwyno’r un prif newyddion yn unig y mae gwasanaethu’r Gymru Gymraeg orau, ond trwy roi cyllid digonol i’r cwmni sydd wedi profi eu gallu i gynnal gwasanaeth o’r fath yn llwyddiannus dros nifer o flynyddoedd bellach,” meddai Eifion Lloyd Jones ar ran Dyfodol i’r Iaith.

“Credwn fod golwg360 yn haeddu pob cefnogaeth i gamu ymlaen yn hyderus i’r dyfodol.”

Ymateb

“Mae’r grant ar gyfer y Gwasanaeth Newyddion Digidol Gymraeg yn arian cyhoeddus a bydd rhaid i’r arian gael ei ddyfarnu trwy broses dendro agored, ffurfiol,” meddai llefarydd ar ran y Cyngor Llyfrau.

“Bydd y broses ymgeisio am yr arian yn cael ei chyhoeddi yn fuan a bydd croeso i Golwg gyflwyno cais.”

Gwasanaeth newyddion Corgi Cymru yn dod i ben

Mae Cyngor Llyfrau Cymru a Newsquest wedi cytuno i roi terfyn ar ariannu a darparu’r gwasanaeth newyddion Cymraeg