Mae Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, yn dweud ei bod hi’n “warthus” fod senedd y Deyrnas Unedig yn cymeradwyo “celwyddau” y Llywodraeth Geidwadol bresennol.
Mae’r llywodraeth yng nghanol cyfnod cythryblus ar hyn o bryd, gyda Kwasi Kwarteng, y cyn-Ganghellor, wedi’i ddiswyddo a Suella Braverman, y cyn-Ysgrifennydd Cartref, wedi ymddiswyddo tros “gamgymeriad gonest” wrth iddi anfon neges yn ymwneud â busnes y llywodraeth o gyfrif personol.
Mae ei holynydd, Grant Shapps, eisoes wedi cwestiynu dyfodol y llywodraeth a’r prif weinidog dros y dyddiau diwethaf, ond wedi derbyn y swydd serch hynny.
Mae’r Prif Weinidog Liz Truss hefyd yn wynebu dyfodol ansicr wrth i’r llywodraeth ddymchwel o’i chwmpas, ac mae cryn ddyfalu wedi bod ynghylch ei dyfodol hithau wrth y llyw wrth i nifer sylweddol o aelodau seneddol ei phlaid ei hun alw arni i gamu o’r neilltu.
Fore heddiw (dydd Iau, Hydref 20), mae cryn ffrae wedi codi ar ôl iddi ddod i’r amlwg fod aelodau seneddol Ceidwadol dan bwysau i gefnogi cynlluniau ffracio’r llywodraeth mewn pleidlais yn San Steffan, gyda nifer yn honni eu bod nhw’n wynebu camau disgyblu pe baen nhw’n pleidleisio yn eu herbyn.
‘Beth sydd wrth wraidd anhrefn San Steffan?’
“Beth sydd wrth wraidd anhrefn San Steffan?’ gofynnodd Liz Saville Roberts ar Twitter heddiw.
“Celwyddau.
“Fe wnaeth celwyddau Brexit hollti’r blaid Dorïaidd, wnaeth yn ei thro holli’r cyhoedd.
“Fe wnaeth celwyddau am gynlluniau treth rhyddewyllysiol peryglus ddymchwel marchnadoedd.
“Gwleidyddion di-ddawn yn cael eu gwobrwyo am eu celwyddau sinigaidd.
“Mae’r ffaith fod San Steffan yn cymeradwyo hyn yn warthus.”