Mae dyfodol tair ysgol gynradd, gan gynnwys un ysgol Gymraeg, ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi cael ei benderfynu yr wythnos hon.

Fe fu’r cyngor sir yn trafod y cynlluniau ar gyfer adnewyddu’r ysgolion, wrth i’r cabinet gyfarfod ddydd Mawrth (Hydref 18).

Fe wnaeth y cyngor benderfynu ar gynigion i ehangu neu symud tair ysgol yn y sir – Ysgol Gymraeg Bro Ogwr, Ysgol Gynradd Coety ac Ysgol Heronsbridge.

Yn dilyn proses ymgynghori, penderfynodd aelodau fwrw ymlaen â chynlluniau i ehangu Ysgol Gymraeg Bro Ogwr, a’r bwriad yw symud yr ysgol bresennol i adeilad newydd ar dir oddi ar Ffordd Cadfan, dim ond 0.2 milltir o’r safle presennol ym Mracla.

Dywed swyddogion y byddai’r safle newydd hwn yn creu cyfleoedd ychwanegol i fwy o ddysgwyr gael mynediad at addysg Gymraeg, yn ogystal â chynyddu capasiti o 378 i 525 ar gyfer dysgwyr rhwng pedair ac 11 oed.

Fe wnaeth aelodau hefyd gymeradwyo cynlluniau i ddechrau proses ymgynghori statudol o ran ehangu ac ymestyn Ysgol Gynradd Coety, gyda’r nod o gynyddu nifer y llefydd ar gyfer plant pedair i 11 oed o 420 i 525.

Byddai ehangu yn ôl y cynlluniau hefyd yn arwain at gynnydd yn narpariaeth feithrin yr ysgol, gan gynyddu’r capasiti i 88 o lefydd llawn amser, a helpu i hwyluso mwy o blant lleol gan fod tai wedi cael eu hadeiladu ar Barc Derwen cyfagos.

Cafodd sêl bendith ei roi hefyd i symud Ysgol Heronsbridge yn dilyn canlyniadau nodyn statudol a gafodd ei gyhoeddi yn gynharach eleni.

Bydd yn gweld yr ysgol yn symud o’i leoliad presennol yn Heol Ewenni i safle newydd oddeutu milltir i ffwrdd ar Island Farm.

Oherwydd ei leoliad a’i faint, ystyriwyd mai Island Farm ym Mhen-y-bont ar Ogwr oedd y safle mwyaf addas ar gyfer y datblygiad, mewn ardal oedd unwaith yn wersyll carcharorion rhyfel yn y 1940au.

Ymhlith manteision y cynnig hwn mae’r gallu i gynnig mwy o lefydd i blant a chanddyn nhw anghenion dysgu ychwanegol, yn ogystal â chyflwyno cyfleusterau newydd megis pwll nofio, llyfrgell, trac rhedeg a siop goffi.

Mae disgwyl i’r ysgol symud yn ystod gwanwyn 2026.