Mae Sioned Williams, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Orllewin De Cymru, yn cefnogi galwadau teuluoedd dioddefwyr trychineb pwll glo’r Gleision am benderfyniad brys i gynnal cwest i farwolaethau’r pedwar glöwr gafodd eu lladd yn 2011.

Mewn protest sydd i’w chynnal wrth y gofeb yng Nghanolfan Gymunedol Cilybebyll heddiw (dydd Iau, Hydref 20), bydd y teuluoedd yn galw ar Grwner Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot i ymateb ar frys i’r dystiolaeth a gafodd ei chyflwyno iddo ym mis Ebrill oedd yn awgrymu bod blynyddoedd o fethiannau honedig gan y cyrff rheoleiddio o bosibl wedi arwain at weithredwyr yn cloddio glo yn anghyfreithlon, gan beidio â’i gofnodi ar y cynlluniau mwyngloddio.

Mae teuluoedd y pedwar dyn a gollodd eu bywydau, perchnogion y pwll glo a chynrychiolwyr etholedig wedi dadlau ers tro bod y dystiolaeth yn atgyfnerthu’r angen am gwest llawn, a gafodd ei agor yn wreiddiol ac yna ei ohirio yn 2013.

Ddydd Gwener (Hydref 21), bydd y Crwner yn clywed dadleuon cyfreithiol gan y bargyfreithiwr sy’n cynrychioli’r teuluoedd sy’n galw arno i agor cwest llawn.

Cefndir

Ar Fedi 15, 2011, yn dilyn ffrwydrad arferol yng nglofa’r Gleision ger Cilybebyll, Pontardawe, gorlifodd miloedd o alwyni o ddŵr i’r twnnel lle’r oedd saith glöwr yn gweithio.

Er y bu i dri o’r saith allu dianc i ddiogelwch, wnaeth pedwar glöwr arall fethu â ffoi.

O ganlyniad, bu farw Charles Breslin, David Powell, Philip Hill, a Garry Jenkins.

Roedd ymchwiliadau yn dilyn hyn a chafodd cyhuddiadau o ddynladdiad eu cyflwyno yn erbyn rheolwr y safle ac MNS Mining Ltd.

Cafwyd y ddau yn ddieuog o bob cyhuddiad.

‘Haeddu atebion’

Fodd bynnag, yn ôl Sioned Williams, mae cwestiynau’n parhau ynghylch gweithrediad y pwll dros nifer o flynyddoedd ac ynghylch y cwestiwn o’r hyn achosodd y trychineb.

“Mae blwyddyn arall wedi mynd heibio ers i ni nodi 10 mlynedd ers Trychineb Pwll Glo Gleision ac mae cwestiynau’n parhau i fodoli, gan fod lleisiau teuluoedd y dioddefwyr yn parhau i gael eu hanwybyddu,” meddai.

“Chwe mis yn ôl, ymunais â’u protest a gynhaliwyd y tu allan i Neuadd y Ddinas yn Abertawe pan gafodd yr achos am gwest llawn ei gyflwyno mewn dogfen i’r Crwner.

“Rwy’n cefnogi eu galwad ar y Crwner i ymateb ar frys i’r dystiolaeth hon, tystiolaeth y mae wedi cael hanner blwyddyn i’w darllen a’i ddadansoddi, ac i agor cwest llawn cyn gynted â phosibl.

“Mae angen ymchwilio’n llawnach i farwolaethau’r pedwar dyn a gollodd eu bywydau yn y drasiedi hon ac anogaf y Crwner i gytuno â’r dadleuon cyfreithiol y bydd yn eu clywed yr wythnos hon ynghylch y dystiolaeth.

“Mae pawb sy’n gysylltiedig â’r trychineb ofnadwy hwn, a’r gymuned gyfan, yn haeddu atebion ynglŷn â’r hyn a arweiniodd at farwolaethau Charles Breslin, David Powell, Philip Hill, a Garry Jenkins a chael gwybod a ellid bod wedi atal eu marwolaethau ai peidio.”