Does gan Liz Truss ddim “fawr o ddyfodol”, yn ôl Hywel Williams, Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Arfon.

Daw hyn wrth i Brif Weinidog y Deyrnas Unedig wynebu ei hargyfwng diweddaraf.

Mae nifer o Aelodau Seneddol Ceidwadol bellach yn galw arni i ymddiswyddo, tra bod Syr Keir Starmer, arweinydd y Blaid Lafur, yn galw am etholiad cyffredinol.

Ddoe (dydd Mercher, Hydref 19) fe ymddiswyddodd yr Ysgrifennydd Cartref Suella Braverman, gan awgrymu y dylai pobol sydd “wedi gwneud camgymeriadau” ymddiswyddo.

‘Welais i erioed y ffasiwn beth’

Yn ôl Hywel Williams, fe fyddai Liz Truss yn lwcus o oroesi’r wythnosau nesaf.

“Dw i ddim yn meddwl bod ganddi fawr o ddyfodol, ‘de,” meddai wrth golwg360.

“Fe allai hi aros ymlaen am rai wythnosau neu fisoedd hyd yn oed, tra maen nhw’n chwilio am rywun arall i gymryd ei lle hi.

“Ond mae ei pherfformiad hi wedi bod mor sâl, efallai y byddan nhw isio hi oddi yna yn syth.

“Mae’n anodd ei gweld hi efo dyfodol tymor hir, ac yn sicr dyna’r farn sydd gan lawer o bobol sy’n uchel iawn yn y Blaid Geidwadol.

“Dw i wedi bod yn Aelod Seneddol ers 21 mlynedd, wedi bod yn Nhŷ’r Cyffredin yn ystod cyfnod rhyfel Irac, yr ymosodiadau ar Affganistan a Syria, ynghyd â’r argyfwng ariannol yn 2008, a dw i erioed wedi gweld sefyllfa fel hyn, lle nid yn unig mae yna anhrefn lwyr yn fewnol ymysg y Llywodraeth, ond lle mae’r bobol sy’n rhedeg y Llywodraeth mor analluog i ddelio efo’r anhrefn yna.

“Fe welson ni hyn ddoe gyda’r Ysgrifennydd Cartref yn ymddiswyddo, welais i erioed y ffasiwn beth!”

‘All y Llywodraeth ddim cario ymlaen fel hyn’

Mae’n bosib na fydd gan y Ceidwadwyr “ddim dewis” ond galw etholiad cyffredinol, er y gallai hynny olygu fod y blaid “allan o rym am o leiaf ddwy Senedd”, yn ôl Hywel Williams.

“Dw i ddim yn meddwl bod y Llywodraeth isio etholiad cyffredinol am resymau amlwg,” meddai.

“Fe fasan nhw’n colli carfan sylweddol iawn o’u haelodau ac fe fasan nhw allan o rym am o leiaf ddwy Senedd.

“Ar y llaw arall, efallai fydd ganddyn nhw ddim dewis os ydi’r anhrefn sydd yna yn parhau.

“All y Llywodraeth ddim cario ymlaen fel hyn.”