Mae Prif Weinidog Cymru wedi cyhoeddi bod Efa Gruffudd Jones wedi’i phenodi’n Gomisiynydd y Gymraeg.

Bydd yn dechrau yn ei swydd ym mis Ionawr, gan olynu’r diweddar Aled Roberts.

Rôl y Comisiynydd yw cynyddu’r gwasanaethau sy’n cael eu darparu yn y Gymraeg, cynyddu’r defnydd o’r iaith, a gwarchod hawliau siaradwyr Cymraeg.

Argymhellodd panel dewis annibynnol fod ganddi’r sgiliau, y profiad a’r hygrededd i gael ei phenodi’n Gomisiynydd y Gymraeg.

Cafodd y farn hon ei hategu gan Bwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol y Senedd.

‘Y Gymraeg yn perthyn i bob un ohonon ni’

“Fe fydd hi’n fraint cael bod yn Gomisiynydd y Gymraeg ac yn anrhydedd dilyn ôl traed Aled Roberts,” meddai Efa Gruffudd Jones yn dilyn ei phenodiad.

“Dw i am weld Cymru lle mae pobol yn gallu mwynhau defnyddio’r Gymraeg bob dydd.

“Dw i’n edrych ymlaen at wneud popeth yn fy ngallu i sicrhau bod y Gymraeg, ein trysor cenedlaethol, yn perthyn i bob un ohonon ni.”

Yr iaith yn ganolog i’w gyrfa

“Dw i’n llongyfarch Efa ar ei phenodi’n Gomisiynydd y Gymraeg,” meddai’r Prif Weinidog Mark Drakeford.

“Mae’r iaith wedi bod yn ganolog i yrfa Efa – fel prif weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ac fel prif weithredwr yr Urdd.

“Fe fydd hi, felly, yn dod i’r swydd â blynyddoedd o brofiad o weithio dros y Gymraeg ac o weithio gyda siaradwyr Cymraeg a dysgwyr ledled Cymru.”

“Mae gyda ni amcanion uchelgeisiol i gynyddu nid dim ond nifer siaradwyr Cymraeg, ond hefyd y defnydd sy’n cael ei wneud o’r Gymraeg bob dydd,” meddai Jeremy Miles, Ysgrifennydd Addysg a’r Gymraeg yn Llywodraeth Cymru.

“Mae rôl y Comisiynydd i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg a gwasanaethau Cymraeg yn rhan bwysig o gyrraedd y targed hwn, a dw i’n edrych ymlaen at weithio’n agos gydag Efa ar hyn.”